Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Gair ar alcohol...

Nid yw ychydig o alcohol yn gwneud niwed, a gall fod yn bleserus. Fodd bynnag, mae rhai pobl yn yfed mwy o alcohol nag eraill, a hyd yn oed os nad ydych yn yfed yn ormodol, gall alcohol olygu eich bod yn ennill pwysau. Mae diodydd alcoholig yn cynnwys llawer o galorïau. Mae'r table isod yn dangos faint o galorïau sydd ym mhob un o'r diodydd canlynol: peint o gwrw, peint o seidr, peint o lager, potel o Bacardi breezer, gwydraid o win a mesur o Baileys a rhew. Cliciwch ar bob diod i weld faint o galorïau sydd ym mhob un:

Mae angen y fersiwn diweddaraf o "Flash Player" i chwarae'r gêm galorïau rhyngweithiol.

Lawr lwythwch y 'Flash Player' o Macromedia.com
Lawr lwythwch y 'Flash Player' o Macromedia.com

Os nad ydych yn gallu, neu ddim am osod y 'Flash' trwy ei blygio, gallwch gael gwybodaeth ynghylch faint o galorïau sydd mewn diodydd alcoholig isod:

Lager, un peint 165 calori
Cwrw, un peint 130 calori
Seidr, un peint 200 calori
Barcardi Breezer, un botel 200 calori
Gwin coch/gwyn, un gwydraid mawr 125 calori
Baileys Irish Cream, un mesur 50ml 175 calori

Hefyd, os ydych yn yfed alcohol yn lle cael pryd o fwyd yn aml (sef "liquid lunch", er enghraifft) mae'n bur debyg nad ydych yn cael fitaminau a maetholion pwysig.

crisps

Yn aml iawn, mae yfed alcohol yn mynd law yn llaw â byrbrydau o'r bar, megis creision, cnau mwnci a phethau tebyg, pethau sy'n cynnwys llawer o fraster a halen. Bydd yr halen hefyd yn gwneud i chi deimlo'n fwy sychedig, felly byddwch yn fwy tebygol o yfed mwy o alcohol.

Am fwy o wybodaeth ar alcohol ewch at yr adran beth gymerwch chi?

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »