Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

bwydydd llaeth

Dim gormod o laeth a bwydydd llaeth

Ymysg y grwp bwydydd hwn mae llaeth, caws, iogwrt, a fromage frais (ond nid menyn, wyau na hufen).

Dylech fwyta'r bwydydd hyn yn gymedrol (h.y. 2-3 serfiad y dydd) oherwydd maent yn ffynhonnell bwysig o galsiwm, sinc, fitaminau B a phrotein.

Dylech geisio dewis mathau isel mewn braster pryd bynnag y gallwch (e.e. mathau o iogwrt a fromage frais isel mewn braster neu heb fraster, caws sy'n isel mewn braster neu sydd â llai o fraster, a llaeth sgim neu semi-sgim).

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »