Ychydig bach o fwydydd sydd yn uchel eu braster
Mae ychydig bach o fraster yn y diet yn hanfodol i'n hiechyd, ond ar y cyfan rydym yn bwyta llawer gormod ohono. Dylech, felly, geisio torri nôl ar faint o fraster fyddwch yn ei fwyta.
Mae dau fath gwahanol o fraster - annirlawn a dirlawn.
Braster annirlawn (Mono-annirlawn ac aml -annirlawn)
Mae ychydig BACH o fraster annirlawn yn hanfodol i'n hiechyd. Mae olewau megis olew olewydd, olew blodyn yr haul, olew corn, olew had rêp a chnau yn ffynonellau braster annirlawn da. Er eu bod yn well i chi na braster dirlawn, maent yn dal i gynnwys llawer o galorïau, felly ni ddylem fwyta gormod ohonynt. Mae pysgod olewog megis eog, macrell, pennog, brithyll, sardinau, pennog Mair a thiwna ffres yn cynnwys asidau braster aml-annirlawn hanfodol (enw arall arnynt yw asidau braster omega-3) - a chredir eu bod yn helpu lleihau'r risg o glefyd y galon.
Braster dirlawn
Mae cyswllt rhwng braster dirlawn a cholesterol uchel a chlefyd y galon, felly ni ddylem fwyta gormod ohono. Mae braster dirlawn mewn bwydydd megis llaeth cyflawn, caws, braster cig, margarîn, mayonnaise, crwst, pasteiod, teisennau, bisgedi, pwdinau a siocled.
Sut i dorri 'nôl ar y braster
- Dylech fwyta llai o "fraster cudd", megis creision, teisennau, bisgedi, rholiau selsig, pasteiod mathau o grwst
- Dewiswch fathau o fwydydd sydd yn isel mewn braster, ble bynnag mae hynny'n bosibl (h.y. margarîn, iogwrt, fromage frais, caws, llaeth [sgim neu semi-sgim], hufen [sengl yn hytrach na dwbl]).
- Beth am fwyta sglodion sy'n cael eu coginio yn y ffwrn yn lle eu ffrio.
- Torrwch unrhyw fraster i ffwrdd o gig cyn ei goginio.
- Wrth goginio cig, neu wrth wneud y grefi, tynnwch unrhyw fraster sy'n dod i'r wyneb.
- Pryd bynnag y gallwch, dylech botsio , stemio, berwi, neu grilio bwydydd yn hytrach na'u rhostio neu'u ffrio. Neu gallwch roi cynnig ar rostio sych, sef heb ychwanegu unrhyw fraster.
- Llawer o ffrwythau a llysiau
- Digonedd o fwydydd sy'n llawn startsh a ffibr
- Dim gormod o laeth a bwydydd llaeth
- Dim gormod o gig, pysgod neu ddewisiadau yn lle cig
- Ychydig bach o fwydydd sydd yn uchel eu braster
- Ychydig bach o fwydydd sy'n cynnwys siwgr ychwanegol
- Ychydig o fwydydd sy'n cynnwys halen
- Gair ar alcohol...
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

