Llawer o ffrwythau a llysiau
Pan roedd eich mam yn eich annog i "fwyta llysiau gwyrdd" roedd hi'n gwybod yn iawn beth oedd hi'n sôn amdano!
Mae ffrwythau a llysiau'n cynnwys llwyth o fitaminau a mwynau sy'n hanfodol er mwyn sicrhau fod eich corff yn gweithio'n effeithlon - i dyfu, atgyweirio celloedd, brwydro yn erbyn clefydau, ac er mwyn sicrhau fod eich cyhyrau, nerfau, esgyrn a'ch gwaed yn aros yn iach. Dylech fwyta cymysgedd o ffrwythau a llysiau gwahanol er mwyn sicrhau eich bod yn cael yr holl fitaminau sydd eu hangen ar eich corff.
Dylech geisio bwyta 5 darn o ffrwythau a llysiau bob dydd. Mae un darn fel a ganlyn:
- Darn o ffrwythau mawr (e.e. tafell o felon, hanner grawnffrwyth)
- 1 darn o ffrwythau maint canolig (e.e. afal, oren, banana)
- 2 ddarn o ffrwythau bach (e.e. eirin)
- 1 llond cwpan o ffrwythau bach iawn (e.e. grawnwin, mefus, mafon)
- ½ - 1 llond llwy fwrdd o ffrwythau wedi'u sychu (e.e. syltanaiaid, rhesins, datys)
- Dau lond llwy fwrdd o lysiau - amrwd, wedi'u coginio, wedi'u rhewi neu mewn tun (e.e. pys, moron, ffa pob)
- Dysglaid o salad
- Gwydraid o sudd ffrwythau heb siwgr (150ml) (e.e. sudd oren, pinafal, afal) - ond yn cyfrif UNWAITH y diwrnod.
Nid yw tatws yn cael eu cyfrif fel un darn o'ch pump o ffrwythau a llysiau, oherwydd, bwyd startsh yw hwn. Mae hynny'n wir hefyd am yr eitemau canlynol:
- cylchoedd sbageti
- gwydraid o ddiod ffrwythau
- iogwrt ffrwythau
- llond llwy fwrdd o jam
- siocled Ffrwythau a Chnau
Cyngor ar sut i gael y gorau o'ch ffrwythau a'ch llysiau
- Dylech fwyta'r ffrwythau a'r llysiau mor ffres ag sydd bosibl, a gofalwch eich bod yn eu cadw yn y ffordd gywir.
- Mae ffrwythau a llysiau oer, wedi'u rhewi, wedi'u sychu neu mewn pecyn yn gallu cynnwys yr un faint o fitaminau a mwynau â rhai ffres.
- Ni ddylech ferwi llysiau am ormod o amser - gellir dinistrio llawer o'r maetholion trwy wneud hynny. Dylech eu berwi am gyfnod byr mewn ychydig bach o ddwr, neu gallwch eu stemio neu eu coginio yn y ficro-don mewn ychydig bach o ddwr yn lle eu berwi.
- Peidiwch â bwyta gormod o ffrwythau wedi'u sychu (e.e. syltanaiaid, rhesins, cyrren neu ddatys) rhwng prydau bwyd - maent yn gwneud niwed i'ch dannedd.
- Llawer o ffrwythau a llysiau
- Digonedd o fwydydd sy'n llawn startsh a ffibr
- Dim gormod o laeth a bwydydd llaeth
- Dim gormod o gig, pysgod neu ddewisiadau yn lle cig
- Ychydig bach o fwydydd sydd yn uchel eu braster
- Ychydig bach o fwydydd sy'n cynnwys siwgr ychwanegol
- Ychydig o fwydydd sy'n cynnwys halen
- Gair ar alcohol...
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

