Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Ychydig o fwydydd sy'n cynnwys halen

Ychydig o fwydydd sy'n cynnwys halen

Mae pawb angen ychydig bach o halen yn ei ddiet - ni ddylai oedolyn gael mwy na 6 gram o halen bob dydd (tua llond llwy de).

Mae llawer o fwydydd wedi'u prosesu a bara yn cynnwys "halen cudd". Mae llawer o bobl yn ychwanegu halen i fwyd wrth goginio, ac mae rhai pobl yn ychwanegu mwy o halen wrth y bwrdd bwyd ar ben hynny.

Mae hyn oll yn golygu ein bod yn bwyta llawer mwy o halen nag sydd ei angen arnom ni. Gall hyn arwain at bwysedd gwaed uchel, clefyd y galon, clefyd yr arennau a strôc.

Sut i dorri lawr ar halen

  • dylech ychwanegu llai o halen wrth goginio - rhowch gynnig ar ddefnyddio sudd lemwn, perlysiau, neu sbeisiau yn lle halen i roi blas ar fwydydd
  • ceisiwch beidio ag ychwanegu mwy o halen wrth y bwrdd bwyd - dylech wastad flasu bwyd cyn ychwanegu halen
  • os byddwch yn prynu prydau parod, chwiliwch am rai sy'n ychwanegu llai o halen
  • os byddwch yn prynu llysiau mewn tuniau, dewiswch y rhai sydd "heb halen ychwanegol"
  • dylech fwyta llai o fyrbrydau hallt megis cnau mwnci a chreision
  • peidiwch â defnyddio gormod o giwbiau stoc - maent yn cynnwys llawer o halen
  • dylech dorri 'nôl ar gigoedd hallt megis cig moch a gamwn.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »