Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Digonedd o fwydydd sy'n llawn ffibr

Digonedd o fwydydd sy'n llawn startsh a ffibr

Ymysg y bwydydd hyn mae tatws, reis, pasta, bara, grawnfwydydd brecwast a ffacbys (e.e. ffa, pys, corbys).

Dylai bwydydd o'r grwp hwn fod yn brif gynhwysion y rhan fwyaf o'ch prydau bwyd. Nhw sy'n rhoi'r startsh a'r ffibr angenrheidiol inni, ac yn hanfodol er mwyn cynhyrchu egni.

Mae mathau grawn cyflawn o'r bwydydd hyn yn cynnwys llawer iawn o ffibr (sy'n helpu atal rhwymedd), ac maent yn cynnwys mwy o fitaminau a mwynau, ac yn eich llenwi'n well. Felly, os hoffech fwyta bwydydd iachach fyth, dylech ddewis bara cyflawn, reis brown, pasta grawn cyflawn a grawnfwydydd brecwast grawn cyflawn.

Gair o rybudd

Cofiwch fod ychwanegu braster yn golygu ychwanegu calorïau, felly gwyliwch sut rydych yn mynd ati i baratoi bwydydd llawn startsh a ffibr cyn i chi eu bwyta...

  • Mae tua 120 o galorïau mewn 170g o datws wedi'u berwi. Ar y llaw arall, mae 430 o galorïau mewn 170g o sglodion!
  • Mae tua 165 o galorïau mewn dwy dafell o dost. Trwy ychwanegu menyn, bydd hyn yn codi i dros 300 o galoriau!

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »