Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Ychydig bach o fwydydd sy'n cynnwys siwgr ychwanegol

Ychydig bach o fwydydd sy'n cynnwys siwgr ychwanegol

Does dim maetholion mewn siwgr - dim ond calorïau. Does dim angen siwgr i greu egni - mae egni'n dod o fwydydd eraill byddwn yn eu bwyta. Siwgr yw prif achos pydredd dannedd, ac mae'n un o brif achosion gordewdra a'r risgiau iechyd sy'n gysylltiedig â hynny.

Edrychwch ar y labeli sydd ar y bwyd rydych yn ei fwyta. Mae siwgr yn ymddangos o dan lawer o enwau gwahanol - "glwcos", "decstros", "ffrwctos", "maltos", "swcros" i enwi ond rhai ohonynt.

Ceisiwch dorri 'nôl ar y siwgr sydd yn eich diet chi.

Sut i dorri lawr ar siwgr

  • Dylech fwyta llai o fyrbrydau sy'n cynnwys siwgr, megis bisgedi a theisennau
  • Dylech yfed te a choffi heb siwgr (gallwch ddefnyddio melyswr artiffisial yn lle)
  • Dylech ddewis mathau isel mewn calorïau neu fathau "diet" o ddiodydd swigod, a diodydd ffrwythau heb siwgr ychwanegol
  • Dylech ddewis grawnfwydydd grawn cyflawn i frecwast, yn hytrach na rhai sydd â chaen siwgr neu fêl
  • Dylech brynu ffrwythau mewn tuniau sydd mewn sudd ffrwythau naturiol yn hytrach na surop
  • Dylech dorri lawr ar faint o farmalêd, jam, mêl a surop rydych yn eu bwyta
  • Dylech brynu pwdinau a melysfwydydd (e.e. Angel Delight, jeli) sy'n barod i'w gwneud, sydd yn isel mewn siwgr

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »