Anhwylderau bwyta
Mae bwyd a bwyta yn rhannau pwysig o'n bywydau. Mae pob unigolyn yn amrywio o safbwynt bwydydd mae'n hoffi, faint o fwyd sydd ei angen arno, a phryd mae'n hoffi bwyta. Mae bwyd yn un o hanfodion ein hiechyd a datblygiad.
Nid peth anarferol yw arbrofi gydag arferion bwyta gwahanol, er enghraifft - efallai eich bod wedi penderfynu troi'n llysieuwr neu wedi ceisio newid eich diet er mwyn gwella'ch iechyd. Fodd bynnag, gall rhai patrymau bwyta fod yn niweidiol. Gweler yr adran Beth yw anhwylderau bwyta? am fwy o wybodaeth.
Yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan yr Eating Disorders Association.
Gwefan: www.edauk.com. Llinell gymorth: 0845 634 14.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

