Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Meddyg

Triniaeth

Os ydych yn dioddef o anhwylder bwyta, y peth pwysig i'w gofio yw hyn: mae'n bosibl gwella. Nid peth hawdd yw gwella, ond mae dal yn bosibl hyd yn oed ar ôl blynyddoedd o salwch.

Er gwaethaf y farn gyfeiliornus mai 'clefyd pobl sydd am golli pwysau' yw anhwylderau bwyta, maent yn cael eu cydnabod fel problemau iechyd difrifol sydd angen gofal arbenigol i helpu rhywun sy'n dioddef ohonynt i ddelio â'r anawsterau seicolegol sylfaenol a'r goblygiadau corfforol.

Trwy ofalu eich bod yn meithrin patrwm bwyta rheolaidd a diet cytbwys, bydd eich corff yn adfer ac yn rhoi i chi'r nerth angenrheidiol i frwydro yn erbyn yr anhwylder. Trwy fynd i'r afael â'r agweddau emosiynol sylfaenol, byddwch yn gallu ymdopi â'r anawsterau mewn modd na fydd yn gwneud niwed i'ch iechyd.

Ond cyn i chi wella, bydd angen i CHI eisiau newid eich ffordd o fyw. Ni fydd neb arall yn gallu gwneud hyn drosoch chi. Gall eich teulu, ffrindiau a gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd eich cynorthwyo trwy gefnogi, gofalu a rhoi'r cyngor angenrheidiol i'ch arwain at wellhad. Yn aml iawn, bydd gan bobl sydd ag anhwylderau bwyta, deimladau cymysg ynghylch 'rhoi'r gorau' i'w salwch. Hyn oherwydd mai dull o ymdopi ag anawsterau emosiynol yw eu harferion bwyta.

I'r rhan fwyaf o bobl, y cam cyntaf, fydd trafod y sefyllfa gyda'u meddyg teulu, neu os nad ydych yn teimlo'n gyfforddus ynghylch siarad â'ch meddyg, efallai y gallwch fynd i weld y Nyrs Practis. Os ydych yn poeni ynghylch gallu trafod pethau gyda'r meddyg, gallwch wneud nodyn o bethau sy'n eich poeni, ac unrhyw gwestiynau yr hoffech eu gofyn. Efallai y gall ffrind neu aelod o'r teulu ddod gyda chi i weld y meddyg.

Os ydych dros 16 oed, dylai'ch meddyg teulu barchu eich dymuniadau os nad ydych chi eisiau iddo/iddi drafod y mater gyda'ch rhieni neu'ch partner. Dylech ddweud wrth eich meddyg pam nad ydych eisiau eu cynnwys yn y sefyllfa, oherwydd yn y rhan fwyaf o achosion, gall rhieni neu bartneriaid fod o gymorth mawr. Os ydych rhwng 16 ac 18 oed, efallai bydd y meddyg yn trafod eich sefyllfa gyda'ch rheini os mae'r anhwylder bwyta yn achosi unrhyw berygl i'ch bywyd. Os ydych yn pryderu ynghylch beth fydd eich meddyg yn trafod neu gyda phwy fydd yn trafod eich sefyllfa, gallwch drafod y mater gydag ef/hi i gychwyn er mwyn esbonio eich pryder.

Y meddyg teulu yw'r cyfrwng hawsaf i gadarnhau'r anhwylder ac i wybod pa opsiynau sydd ar gael o safbwynt triniaeth o fewn y GIG. Mae nifer o fathau gwahanol o driniaeth ar gael. Efallai y cewch gynnig cyfuniad o fathau gwanhaol o therapi. Os ydych'ch pwysau chi'n isel iawn, efallai y bydd yn rhaid i chi ennill ychydig o bwysau cyn cychwyn ar y therapi. Yn dibynnu ar ba mor ddifrifol mae'r anhwylder, efallai y cewch gynnig cwrs o ymgynghori; cynghori neu gyngor dietegol; neu efallai y cewch eich cyfeirio at arbenigwr i gael asesiad pellach. Mae'n bur debyg y cewch gynnig rhyw fath o 'therapi trafod' megis: cynghori, seicotherapi, therapi analytig gwybyddol, therapi ymddygiad gwybyddol, therapi grwp, therapi teuluol. Dylai'r therapi a gynigir i chi fod yn seiliedig ar y trafodaethau rhyngoch chi a'r gweithwyr proffesiynol ym maes iechyd. Os ydych yn glaf preswyl neu'n glaf dydd, efallai y byddwch hefyd yn cael cynnig therapi drama neu therapi celf yn ogystal â therapi ymlacio a therapi derbyn eich corff, gan gynnwys tylino, aromatherapi neu adweitheg.

Efallai y bydd angen triniaeth ar gyfer unrhyw gyflwr meddygol sydd gennych, sydd wedi deillio o'r anhwylder bwyta, neu sy'n gysylltiedig â'r anhwylder.

Mewn rhai achosion, gall meddyginiaeth helpu wrth drin bwlimia, neu wrth ddelio â'r iselder cysylltiedig neu broblemau eraill.

Yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan yr Eating Disorders Association.
Gwefan: www.edauk.com. Llinell gymorth: 0845 634 14.