Anorecsia nerfosa
Ystyr 'Anorecsia nerfosa' yw 'colli archwaeth bwyd am resymau nerfol' ond mae hyn yn gamarweiniol, oherwydd mewn gwirionedd, mae unigolyn sy'n dioddef o anorecsia wedi colli'r gallu i ganiatáu iddo/iddi ei hunan diwallu'i [h]archwaeth.
Maent fwy na thebyg yn cyfyngu'r hyn maent yn eu bwyta ac yfed, weithiau i raddau peryglus. Efallai y byddant yn gwneud ymarfer corff er mwyn llosgi'r hyn, sydd yn eu tyb nhw, yn galorïau dros ben. Maent yn canolbwyntio ar fwyd mewn ymdrech i ymdopi â bywyd, yn hytrach na newynu ei hunan i farwolaeth. Dull yw o ddangos eu bod yn gallu rheoli eu pwysau a'u siâp. Yn y pen draw, fodd bynnag, yr anhwylder ei hunan sy'n cymryd drosodd, ac mae'r newidiadau cemegol yn y corff yn effeithio ar yr amynedd ac yn newid eu ffordd o feddwl, sy'n golygu ei bod hi bron yn amhosib iddynt wneud penderfyniadau synhwyrol ynghylch bwyd. Wrth i'r anhwylder waethygu, bydd yr unigolyn yn dioddef o flinder oherwydd newyn. Weithiau bydd pobl yn marw o effaith anorecsia, yn enwedig os nad ydynt yn cael triniaeth.
Ni fydd pawb yn cael yr un symptomau. Bydd rhai pobl yn cael cymysgedd o symptomau a does dim rhaid i unigolyn gael yr holl symptomau hyn i ddioddef o anhwylder bwyta.
Effeithiau anorecsia ar y corff
- Mewn oedolion, colli llawer o bwysau; mewn plant a phlant yn eu harddegau, nid ydynt yn ennill pwysau digonol mewn perthynas â'u tyfiant, neu'n colli pwysau'n sylweddol.
- Rhwymedd a phoenau yn yr abdomen
- Pyliau o benysgafnder a theimlo'n egwan
- Stumog wedi ymchwyddo, wyneb a phigyrnau chwyddog
- Gwallt melfedaidd ar y corff; weithiau colli gwallt y pen wrth wella
- Cylchrediad y gwaed yn wael a theimlo'n oer
- Croen sych, garw neu afliwiedig
- Colli 'mislifoedd', colli diddordeb mewn rhyw
- Colli más esgyrn ac, yn y pen draw, osteoporosis (esgyrn brau)
Arwyddion seicolegol o anorecsia
- Ofn dwys o ennill pwysau a diddordeb obsesiynol yn yr hyn mae pobl eraill yn ei fwyta
- Canfyddiad gwyrgam o siâp neu bwysau'r corff
- Gwadu fod problem yn bodoli
- Newidiadau mewn personoliaeth a hwyliau ansad
- Bod yn ymwybodol o 'lais mewnol' sy'n herio barn yr unigolyn ar fwyta ac ymarfer corff.
Arwyddion ymddygiadol anorecsia
- Ymddygiad anhyblyg neu obsesiynol mewn perthynas â bwyta, megis torri bwyd yn ddarnau bach iawn
- Hwyliau ansad
- Aflonyddwch a gorfywiogrwydd
- Gwisgo dillad mawr llac
- Chwydu, cymryd carthyddion
Effeithiau tymor hir anorecsia
Gall yr effeithiau tymor hir ar y corff a'r meddwl fod yn ofnadwy ac yn ddifrifol. Mae menywod gydag anorecsia yn cael mwy o drafferth mynd yn feichiog, ac yn y tymor hir, gall anffrwythlondeb fod yn broblem. Yn ffodus, gellir lleihau'r effeithiau hyn unwaith bydd y corff yn cael y maeth iawn a hynny'n rheolaidd. Mae'n bur debyg y gall dynion a menywod ddatblygu osteoporosis o ganlyniad i'r anhwylder yma.
Gwella
Unwaith bydd unigolyn yn cychwyn gwella, gall gymryd wythnosau neu fisoedd i'r corff a'r meddwl ail-addasu. Gall yr arfer o fwyta ac yfed yn rheolaidd achosi i gorff rhywun ymchwyddo dros dro. Ar un llaw, bydd chwant mawr arnynt i gael bwyd, tra ar y llaw arall, gall ennill pwysau fod yn brofiad ofnadwy. Gall delio â disgwyliadau pobl eraill o'u cwmpas hefyd arwain at straen. Gall personoliaeth a hwyliau ansad gymryd amser i setlo, yn dibynnu ar yr anawsterau emosiynol sy'n wynebu'r unigolyn.
Gweler triniaeth am fwy o wybodaeth ar wella yn sgil anorecsia nerfosa.
Yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan yr Eating Disorders Association.
Gwefan: www.edauk.com. Llinell gymorth: 0845 634 14.

