Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

bwyta

Anhwylder pyliau gorfwyta (BED)

Mae anhwylder pyliau gorfwyta (BED) yn rhannu rhai o nodweddion bwlimia, ond y gwahaniaeth pwysig yw bod yr unigolyn yn gorfwyta'n aflywodraethus, ond nid yw'n carthu. Y gred yw bod mwy o bobl yn dioddef o anhwylder pyliau gorfwyta nag o anorecsia neu fwlimia nerfosa. Oherwydd faint o fwyd maent yn ei fwyta, mae llawer o bobl sydd â BED yn mynd yn ordew, a gall hyn arwain at broblemau gyda phwysedd y gwaed, clefyd y galon a diffyg ffitrwydd yn gyffredinol. Mewn rhai ffyrdd, mae'r driniaeth ar gyfer BED yn debyg i driniaeth fwlimia.

Arwyddion pyliau gorfwyta

  • Bwyta'n llawer cyflymach nag arfer
  • Bwyta nes teimlo'n anghyfforddus o lawn
  • Bwyta llawer o fwyd er nad yw'r unigolyn mewn gwirionedd eisiau bwyd
  • Bwyta wrth eich hunan oherwydd embaras ynghylch faint o fwyd mae rhywun yn bwyta
  • Teimlad o ddiffyg rheolaeth mewn perthynas â bwyd
  • Teimlo'n hunanymwybodol ynghylch bwyta o flaen pobl eraill
  • Teimlo cywilydd, yn isel neu'n euog ar ôl pyliau gorfwyta
  • Yn methu â charthu ei hunan neu i wneud iawn am y bwyd gafodd ei fwyta.

Gwella

Gweler yr adran triniaeth am wybodaeth ar wella yn sgil bwlimia.

Yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan yr Eating Disorders Association.
Gwefan: www.edauk.com. Llinell gymorth: 0845 634 14.