Bwlimia nerfosa
Ystyr llythrennol bwlimia nerfosa yw 'newyn nerfol ych'. Er hynny, angen emosiynol yw'r newyn nad yw bwyd wrth ei hunan yn gallu diwallu.
Efallai y bydd unigolyn sy'n dioddef o fwlimia nerfosa yn cael pyliau gorfwyta llawer o fwyd (dwywaith, tair gwaith neu hyd yn oed pedair gwaith y bwyd arferol i gyd ar un tro, ac yn aml bwydydd sy'n cynnwys llawer o galorïau, carbohydradau a braster) er mwyn diwallu'r bwlch emosiynol neu newynog. Wrth iddynt ddechrau teimlo'n llawn, daw teimladau o euogrwydd a chywilydd i'r meddwl, a'r awydd i gael gwared â'r bwyd ar unwaith trwy chwydu neu gymryd carthyddion (neu'r ddau), trwy newynu neu leihau faint o fwyd mae'n bwyta, neu drwy gael gwared â'r calorïau trwy ymarfer corff er mwyn peidio ag ennill pwysau.
Gall y gylchred hon gadw poen ac anhapusrwydd mewnol draw - ond dim ond am gyfnod byr.
Bydd amlder y cylchredau bwlimig hyn yn amrywio o un unigolyn i'r llall. Efallai y bydd unigolyn yn dioddef o bwl bob rhyw ychydig o fisoedd neu, os maent yn salach, efallai y bydd yn gorfwyta ac yn carthu nifer o weithiau mewn diwrnod. Efallai bydd rhai pobl yn chwydu'n awtomatig ar ôl bwyta. Bydd eraill yn bwyta'n gymdeithasol, ond yn breifat byddant yn bwlimig. Nid yw llawer o bobl yn ystyried eu salwch yn broblem, tra bo eraill yn casáu ac yn ofni'r gylchred filain ac aflywodraethus sy'n eu rheoli.
Mae'n anoddach i bobl eraill sylwi ar fwlimia, oherwydd nid yw'r unigolyn yn dueddol o golli pwysau mewn ffordd mor ddramatig, neu bydd eu pwysau yn mynd i fyny ac i lawr. Mae'n bosibl na fydd rhywun sy'n agos ato/ati yn y cartref neu yn y gwaith yn adnabod y salwch, felly gall barhau am flynyddoedd heb i neb sylweddoli. Mae'n ddigon posibl fod pobl sy'n dioddef o fwlimia yn gwneud gwaith ymdrechgar sy'n golygu eu bod nhw'n gorfod bod yn gymdeithasol ac yn hunan hyderus, hyd yn oed os maent yn teimlo'n annigonol yn fewnol. Yn debyg i anorecsia, mae pobl sy'n datblygu bwlimia yn mynd yn ddibynnol ar reoli bwyd a bwyta fel dull o ymdopi ag anawsterau emosiynol yn eu bywydau. Mae'n bosibl hefyd y byddant yn cael obsesiwn ynghylch cadw eu pwysau'n wastad.
Mae unigolyn fwyaf tebygol o feithrin bwlimia yn ystod y cyfnod rhwng ei [h]arddegau hwyr a'i [h]ugeiniau cynnar. Bydd hyn yn digwydd weithiau oherwydd ei [f]bod yn credu y bydd bwlimia yn gymorth iddynt golli pwysau ar ôl i ymdrechion eraill i golli pwysau wedi methu. Yn aml, mae cyswllt rhyngddo â diffyg hunan-barch, neu ddiffyg hunanhyder cyffredinol. Mae'n bosibl y bydd yr unigolyn wedi cael anorecsia yn y gorffennol.
Ni fydd pawb yn cael yr un symptomau. Bydd rhai pobl yn cael cymysgedd o symptomau, a does dim rhaid i unigolyn gael yr holl symptomau hyn i ddioddef o anhwylder bwyta.
Effeithiau bwlimia ar eich corff
- Newidiadau aml mewn pwysau
- Dolur gwddf, pydredd dannedd ac anadl drwg oherwydd gormod o chwydu
- Chwarennau poerol wedi chwyddo sy'n achosi i'r wyneb ymddangos yn fwy crwn
- Cyflwr gwael ar y croen, a cholli gwallt, efallai
- 'Mislifoedd' anghyson neu golli diddordeb mewn rhyw
- Syrthni a blinder
- Cynnydd yn y risg o broblemau gyda'r galon a phroblemau gydag organau mewnol eraill.
Arwyddion seicolegol bwlimia
- Awydd tu hwnt i reolaeth i fwyta llwythi o fwyd
- Obsesiwn gyda bwyd, neu deimlad o 'ddiffyg rheolaeth' mewn perthynas â bwyd
- Canfyddiad gwyrgam o bwysau a siâp y corff
- Ymddygiad emosiynol a hwyliau ansad
- Pryder ac iselder; diffyg hunan-barch, cywilydd ac euogrwydd
- Unigedd - teimlo'n ddiymadferth ac yn unig.
Arwyddion ymddygiadol bwlimia
- Pyliau gorfwyta a chwydu
- Diflannu i'r toiled ar ôl bwyta er mwyn chwydu'r bwyd
- Gorddefnyddio carthyddion, diwretigion neu enemâu
- Cyfnodau o ymprydio
- Gormod o ymarfer corff
- Cyfrinachgarwch ac amharodrwydd i gymdeithasu siop ladrata bwyd; gwario symiau arian anarferol ar fwyd
- Bwyd yn diflannu'n annisgwyl neu'n cael ei gadw'n gyfrinachol.
Effeithiau tymor hir bwlimia
Yn debyg i anorecsia, gall bwlimia reoli bywyd yr unigolyn sy'n dioddef o'r anhwylder, gan wneud iddynt deimlo'n gaeth ac yn anobeithiol. Gall yr arfer o orfwyta, carthu a cholli hylif achosi problemau corfforol hefyd, ond ar ôl i'r corff dderbyn maeth cyson a chymedrol, bydd y problemau hyn yn gwella.
Mewn achosion difrifol, gall bwlimia arwain at farwolaeth oherwydd i'r galon fethu. Gall anghydbwysedd neu lefelau isel ofnadwy o fwynau hanfodol yn y corff effeithio'n sylweddol, neu hyd yn oed yn angheuol, ar yr organau mewnol hanfodol. Ymysg peryglon eraill bwlimia mae: torlengig yn y stumog, tagu, ac erydiad o enamel y dannedd, poen wrth lyncu a chwarennau poeri'n sychu. Gall camddefnyddio carthyddion arwain at broblemau difrifol yn y coluddyn.
Gwella
Gweler yr adran triniaeth am wybodaeth ar wella yn sgil bwlimia.
Yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan yr Eating Disorders Association.
Gwefan: www.edauk.com. Llinell gymorth: 0845 634 14.

