Gorfodaeth i orfwyta
Amrywiad yw Gorfodaeth i orfwyta ar byliau gorfwyta pan fydd unigolyn yn bwyta ar adegau pan nad yw eisiau bwyd. Gall hyn ddigwydd trwy'r amser, neu mewn pyliau. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n cael gorfodaeth i orfwyta yn pwyso gormod, ac efallai eu bod yn defnyddio eu pwysau neu eu golwg i guddio er mwyn osgoi cymdeithasu, tra mae eraill yn cuddio tu ôl i wyneb hapus er mwyn osgoi mynd i'r afael â'u problemau. Yn aml bydd y sawl sy'n dioddef o'r anhwylder yn cael cywilydd mawr o fethu â gallu rheoli'r orfodaeth i fwyta.
Gwella
Mae gorfodaeth i orfwyta'n gyflwr difrifol, ac mae angen cymorth proffesiynol er mwyn sicrhau gwelliant tymor hir.
Gweler yr adran triniaeth am fwy o wybodaeth.
Yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan yr Eating Disorders Association.
Gwefan: www.edauk.com. Llinell gymorth: 0845 634 14.

