Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Beth yw anhwylderau bwyta?

Gall problemau gyda bwyd gychwyn pan fydd unigolyn yn dechrau defnyddio bwyd fel dull i ymdopi â chyfnodau o ddiflastod, pryder, dicter, unigrwydd, cywilydd neu dristwch, neu i'w helpu ymdopi â sefyllfa neu deimladau sy'n achosi poen, neu er mwyn lleihau straen.

Fel arfer, mae anhwylderau bwyta yn deillio o gyfuniad o nifer o ffactorau, digwyddiadau, teimladau neu bwysau sy'n golygu nad yw unigolyn yn gallu ymdopi. Gall y rhain gynnwys diffyg hunan-barch, perthnasau teuluol, problemau gyda ffrindiau, rhywun sy'n cael ei fwlio, profedigaeth, problemau yn y gwaith, y coleg neu'r brifysgol, disgwyliadau academaidd uchel, diffyg hyder, salwch neu anabledd tymor hir, camdriniaeth rywiol, pryderon ynghylch rhywioldeb, neu gamdriniaeth emosiynol. Mae llawer o bobl, yn syml iawn, yn sôn am deimlo'n 'rhy dew' neu 'ddim digon da'.

Gall unrhyw un ddatblygu anhwylder bwyta, er gwaethaf eu hoedran, rhyw, cefndir diwylliannol neu hiliol; er y bobl sydd fwyaf tebygol o ddioddef o anhwylder bwyta yw menywod ifanc, yn enwedig rhai rhwng 15-25 oed. Nid yw'n anarferol, fodd bynnag, i anhwylder bwyta ymddangos yn ystod canol oed.

Yn aml, bydd pobl sydd ag anhwylder bwyta yn dweud mai'r anhwylder yw'r unig ffordd y gallent reoli eu bywydau, ond a dweud y gwir, wrth i amser fynd heibio, nid nhw sydd yn rheoli pethau - yr anhwylder bwyta sy'n gwneud hynny.

Yn aml, bydd pobl yn cael teimladau o anobaith a chywilydd, a theimlo eu bod yn methu rheoli pethau oherwydd nad ydynt yn gallu gorchfygu'r teimladau sydd ganddynt am fwyd wrth eu hunain. Mae rhai pobl hefyd yn darganfod eu bod yn cael awydd niweidio eu hunain neu i gamddefnyddio alcohol neu gyffuriau.

Dylai pobl sy'n delio ag emosiynau a theimladau yn y ffordd yma, ac sy'n anhapus yn ei gylch, geisio eu trafod gyda rhywun sy'n ennyn eu ffydd nhw. Nid yw cadw'r teimladau iddynt eu hunain yn gwneud unrhyw ddaioni iddyn nhw nac i bobl eraill o'u cwmpas, ni fydd yn gwneud iddynt deimlo'n well, a go brin y bydd y broblem yn diflannu. Gweler yr adran mathau o anhwylderau bwyta am fwy o wybodaeth ynghylch anhwylderau bwyta penodol, a'r adran triniaeth am fwy o wybodaeth ynghylch mathau gwahanol o driniaeth.

Yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan yr Eating Disorders Association.
Gwefan: www.edauk.com. Llinell gymorth: 0845 634 14.