Cydbwysedd Bwyd/Egni
Mae'r unigolyn cyffredin yn bwyta tua 500kg o fwyd bob blwyddyn - sef hanner tunnell, 1100 pwys, neu 78 stôn! Mae hynny tua'r un pwysau â buwch Jersey o gyflawn oed!
Ond, ydych chi erioed wedi ystyried pam ein bod yn bwyta cymaint?
Bwyd yw un o hanfodion bywyd. Yn yr un ffordd ag y mae angen rhoi petrol mewn car, mae angen tanwydd ar eich corff chi er mwyn cynnal ei systemau'n effeithiol. Rydym yn defnyddio egni sy'n dod o fwyd ar gyfer ein holl weithgareddau dyddiol, o gerdded a sefyll i godi pethau a garddio.
Felly, mae'r bwyd yn cael ei droi yn egni sy'n cael ei ddefnyddio wedyn i wneud gweithgareddau corfforol.
Dynion cyntefig yn erbyn dynion yr oes hon
Mae hyn yn golygu fod angen cael cydbwysedd rhwng faint o fwyd mae rhywun yn bwyta, er mwyn cadw pwysau iach, gyda faint o egni byddwn yn ei ddefnyddio yn ystod ein gweithgareddau dyddiol.
Mae'n bosibl bwyta rhy ychydig o danwydd er mwyn cynnal anghenion y corff - gall hyn achosi i unigolyn golli pwysau, dioddef o ddiffyg maeth ac achosi iechyd gwael. Felly hefyd, mae'n bosibl bwyta gormod o fwyd, a mynd yn rhy drwm - mae hyn yn arwain at lawer o bryderon iechyd, gan gynnwys pwysedd gwaed uchel, clefyd y galon a diabetes.
Am fwy o wybodaeth ar sut i gynnal cydbwysedd iach o safbwynt bwyd/egni, ewch at yr adran ydy'ch pwysau chi'n iach?

