Dynion cyntefig yn erbyn dynion yr oes hon
Meddyliwch am ein cyndeidiau o Oes y Cerrig. Roedd yn rhaid i ddynion a menywod cyntefig fynd am gyfnodau hir pan roedd bwyd yn brin, yn enwedig yn ystod misoedd y gaeaf pan roedd y tir wedi rhewi'n galed ac o dan blanced o eira. Byddent yn llwyddo i wneud hyn trwy wledda ar fwyd pan roedd digonedd ar gael, a gadael i'w cyrff gadw braster ar gyfer y dyddiau anodd o'u blaenau. Roedd y braster nid yn unig yn golygu eu bod yn gallu mynd am gyfnod heb fwyd i roi egni iddynt, ond roedd hefyd yn eu cadw'n gynnes yn ystod y tywydd oer. Hyd yn oed yn ystod y misoedd cynhesach, byddai dynion a menywod cyntefig wedi gorfod gweithio'n galed i gael hyd i fwyd. Roedd yn rhaid iddynt gerdded yn bell i hela a lladd anifeiliaid gwyllt, i chwilio am fwyd, ac i adeiladu llochesi.
Yn ôl â ni i'n hoes ni. Yn y DU, mae bwyd ar gael trwy gydol y flwyddyn. Rydym yn byw mewn cartrefi sydd â gwres canolog, a gallwn wisgo dillad cynnes pan mae hi'n oer. Rydym yn defnyddio ceir i fynd i'r archfarchnad agosaf, neu i brynu bwyd o fwyty prydau parod. Mae hyn oll yn golygu ei fod yn haws o lawer i bobl yr oes hon fwyta gormod o fwyd a mynd yn rhy dew neu'n ordew.

