Mwynau
Potasiwm
Pam?
Mae'n helpu'r corff i gynnal ei hylif.
I'w gael mewn
Bananas a thatws. Fe'i ceir hefyd mewn cynnyrch llaeth, yn enwedig iogwrt sy'n isel mewn braster a'r rhan fwyaf o ffrwythau a llysiau.
Gwybodaeth ychwanegol:
Os na chewch ddigon o botasiwm, gall beri i chi deimlo'n wan, yn chwydlyd, yn gysglyd ac i ymddwyn yn afresymol.
Calsiwm
Pam?
Mae'n cadw'ch esgyrn a'ch dannedd yn gryf.
I'w gael mewn
Cynnyrch llaeth sy'n isel mewn braster fel iogwrt, llaeth a chaws, hadau sesame, llysiau gwyrdd deiliog, bara, cnau a hadau, ffrwythau sych a chaws (mae caws caled yn well na chaws meddal).
Haearn
Pam?
Mae'n cadw eich lefelau ynni'n uchel trwy helpu'r gwaed i gludo ocsigen o amgylch y corff. Mae ei angen hefyd ar gyfer celloedd gwaed coch.
I'w gael mewn
Cnau, llysiau gwyrdd deiliog (fel sbigoglys a berwr y dwr), melynwy, pysgod, cnau, gwycbys a bara gwenith cyflawn.
Gwybodaeth ychwanegol:
Gall prinder haearn arwain at wyneb gwelw, diffyg ynni a gwneud i chi.
Sinc
Pam?
Mae'n angenrheidiol ar gyfer gweithrediad normal y system imiwnedd, ar gyfer cyfradd twf normal, datblygu'r organau atgenhedlu ac er mwyn i glwyfau a llosgiadau wella.
I'w gael mewn
Llysiau gwyrdd, caws, hadau sesame a phwmpen, cynnyrch grawn cyflawn, cynnyrch llaeth, cig, burum a bwydydd y môr.
Gwybodaeth ychwanegol:
Gall diffyg difrifol arwain at wendid y cyhyrau a cholli'r gallu i flasu.
Ailgynhyrchwyd trwy ganiatâd caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk/theroom

