Fitaminau
Fitamin A
Pam?
Mae ei angen ar gyfer tyfu a datblygu ac mae'n hanfodol ar gyfer cael golwg normal. Mae hefyd yn helpu i gadw'r croen yn iach ac i amddiffyn llenni mewnol y geg, y trwyn, y gwddf a'r ysgyfaint.
I'w gael mewn:
Llysiau coch, oren neu felyn fel moron a thomatos, llysiau gwyrdd deiliog a ffrwythau fel bricyll ac eirin gwlanog, melynwy, iau/afu a physgod brasterog.
Fitamin C
Pam?
Mae ei angen ar gyfer tyfu a chynnal esgyrn, dannedd, gymiau, gewynnau a gwythiennau iach. Mae hefyd yn bwysig gan ei fod yn helpu clwyfau i wella.
I'w gael mewn:
Ffrwythau ffres yn arbennig ffrwythau sitraidd, tomatos, sbigoglys, tatws a brocoli.
Gwybodaeth ychwanegol:
Dywedir bod cymryd llawer o fitamin C yn helpu i leihau'r tebygolrwydd o ddal annwyd cyffredin. Fodd bynnag, gall cymryd gormod o fitamin C fod yn niweidiol hefyd. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch ā'ch meddyg.
Fitamin D
Pam?
Mae'n cynnal y lefelau calsiwm yn y gwaed, hefyd yn hanfodol ar gyfer yr esgyrn a dannedd.
I'w gael mewn:
Pysgod brasterog, fel pennog Mair, sardīns, mecryll a thiwna, a melynwy a menyn.
Fitamin E
Pam?
Mae'n hanfodol ar gyfer adeiladedd celloedd iach, ac ar gyfer arafu arwyddion heneiddio. Mae'n amddiffyn yr ysgyfaint a meinweoedd eraill rhag niwed yn ogystal ā chynnal celloedd gwaed coch iach.
I'w gael mewn:
Olew llysiau, cnau, llysiau a grawnfwydydd.
Fitamin K
Pam?
Mae'n rhan o geulu'r gwaed a bydd prinder ohono'n arwain at gleisio a gwaedu'n ormodol.
I'w gael mewn:
Llysiau deiliog gwyrdd tywyll, er enghraifft, bresych, ysgewyll a sbigoglys.
Gwybodaeth ychwanegol:
Gall bacteria yn eich perfeddion hefyd gynhyrchu fitamin K, a amsugnir i'ch gwaed.
Ailgynhyrchwyd trwy ganiatād caredig Galw Iechyd Cymru - www.nhsdirect.wales.nhs.uk

