Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Cyfrifiannell BMI

Ydy'ch pwysau chi'n iach?

Yn gyntaf, bydd angen gwybod eich taldra a'ch pwysau. Wedyn gallwch ddefnyddio'r Cyfrifiannell BMI i weithio allan Mynegai Más eich Corff.

Noder nad yw'r BMI yn fanwl gywir i bawb - mwy o wybodaeth.

Number-crunching

Os ydych yn dda gyda rhifau, gallwch weithio hyn allan eich hunan...

  1. Lluoswch eich taldra (mewn metrau) wrth ei hunan (e.e. 1.65m x 1.65m).
  2. Yna pwyswch eich hunan mewn cilogramau.
  3. Yna rhannwch eich pwysau gyda'ch taldra sgwaredig (sef yr ateb i gwestiwn 1) i gael Mynegai Más eich Corff (BMI).

Er enghraifft:

Mae Bethan yn 1.5 metr mewn taldra ac yn pwyso 50 cilogram.

1.5 x 1.5 = 2.25. 50 rhannu â 2.25 = 22.22

Felly Mynegai Más Corff Bethan yw:

22.22


scales & tape measure

Ar ôl gweithio allan eich BMI, cymharwch y ffigur â'r tabl isod a darllenwch yr adran sy'n berthnasol i'ch categori chi.

I'r rhan fwyaf o bobl mae'r BMI yn ddull dibynadwy i weld a yw eich pwysau yn peri risg i'ch iechyd. Fodd bynnag, NODER: nad yw'r BMI yn fanwl gywir ar gyfer:

  • athletwyr neu unigolion sy'n magu cyhyrau (mae cyhyrau'n pwyso'n drymach na braster, fyddai'n gallu golygu fod rhywun sy'n gyhyrog iawn yn cael ei gategoreiddio yn ordew)
  • menywod sy'n disgwyl
  • menywod sy'n rhoi'r fron
  • plant
  • pobl fregus mewn oed
  • pobl sydd o dan 5 troedfedd

BMI argymelledig

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »