Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Ordew (BMI 30 - 40)

Mae Mynegai Más eich Corff o fewn yr ystod ordew.

Mae llawer o risgiau ynghlwm wrth fod yn ordew, gan gynnwys pwysedd gwaed uchel, diabetes, clefyd y galon a rhai mathau o ganser.

Mae'n bwysig nad ydych yn ennill mwy o bwysau. Gweler yr adran Bwyta Diet Cytbwys am fwy o wybodaeth ar fwyta'n iach. Bydd angen gwneud newidiadau gydol oes i'ch ffordd o fyw ac i'ch diet er mwyn colli pwysau a gwella'ch iechyd. Dylech drefnu fynd i weld eich meddyg er mwyn cael eich cyfeirio at ddietegydd i gael cyngor arbenigol ar eich diet.

Byddai colli hyd yn oed 10% o'ch pwysau presennol yn helpu lleihau'r risg o broblemau iechyd.

Dylech anelu at golli pwysau'n araf ac yn gyson - tua 0.5 - 1 cilogram (1-2 pwys) yr wythnos. Nid yw "diet brys" yn ffordd iach i golli pwysau, ac fel arfer byddwch yn adennill y pwysau'n gyflym.