Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Rhy drwm (BMI 25 - 30)

Mae Mynegai Más eich Corff o fewn yr ystod rhy drwm.

Byddai'n gwneud lles i chi golli pwysau, a dylech ymdrechu'n galed i beidio ag ennill mwy o bwysau.

Byddai bwyta diet cytbwys, amrywiol ac iach a chymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol pleserus yn rheolaidd yn helpu chi i golli pwysau, ac i gadw'ch pwysau i lawr.

Dylech anelu at golli pwysau'n araf ac yn gyson - tua 0.5 cilogram (1 pwys) yr wythnos. Nid yw "diet brys" yn iach, ac fel arfer, byddwch yn adennill y pwysau'n gyflym.