Rydych o fewn yr ystod pwysau isel.
Mae'n ddigon posibl fod rhai pobl yn y categori hwn mewn gwirionedd yn bwyta diet iachus a chytbwys, a'u bod nhw'n naturiol fain. Os ydych yn credu mai dyna'ch disgrifiad chi, mae angen gofalu nad ydych yn colli pwysau - os byddwch yn colli pwysau heb unrhyw reswm amlwg, dylech fynd i weld gweithiwr proffesiynol ym maes iechyd. Bydd angen hefyd gofalu eich bod yn cael yr holl fitaminau, maetholion ac egni angenrheidiol.
Os byddwch yn cyfyngu'n fwriadol faint o fwyd rydych yn ei fwyta, yn poeni ynghylch ennill pwysau, neu'n gwneud eich hunan yn sâl ar ôl bwyta, dylech fynd at yr adran Anhwylderau Bwyta a dylech drefnu gweld gweithiwr proffesiynol ym maes iechyd ar unwaith.

