Syniadau ar sut i golli pwysau
Mae'r busnes colli pwysau wedi troi'n fusnes mawr, ac mae llawer o bobl yn gwneud llawer o arian allan o ddyheadau pobl i golli pwysau.
Fodd bynnag, y gwir amdani yw hyn - er gwaethaf yr holl gynhyrchion drud, y pils "gwyrthiol", mathau o ddiet ffasiynol, a'r honiadau annhebygol ynghylch colli pwysau, does dim ffordd wyrthiol i golli pwysau.
Os ydych am golli pwysau mewn ffordd ddiogel, a chadw at eich pwysau newydd, bydd angen gwneud addasiadau bach, cynaliadwy a pharhaol i'r hyn rydych yn ei fwyta, ac i'r gweithgaredd corfforol fyddwch yn ei wneud.
Os ydych yn pryderu ynghylch eich pwysau, ewch i weld eich meddyg neu ddietegydd. Fodd bynnag, os ydych am golli ychydig o bwysau, dilynwch y cyngor isod:
- Gofynnwch i'ch teulu a'ch ffrindiau eich cynorthwyo. Efallai y bydd un ohonynt yn penderfynu ymuno â chi yn yr her.
- Dylech osod nodau realistig i chi'ch hunan. Dylech anelu at golli pwysau'n araf ac yn gyson - tua 0.5 - 1 cilogram (1-2 pwys) yr wythnos. Efallai bod hyn yn ymddangos yn araf, ond meddyliwch faint fyddwch yn ei golli dros ychydig o fisoedd.
- Peidiwch â mynd at "ddiet brys" a gofalwch eich bod yn bwyta diet cytbwys er mwyn cael yr holl egni, maetholion a fitaminau sydd eu hangen ar eich corff.
- Dylech dorri lawr ar faint o fraster, siwgr, alcohol a halen fyddwch yn eu cymryd - dylech fwyta mwy o fwydydd startsh (er enghraifft, tatws, pasta, reis, bara), ffrwythau ffres a llysiau.
- Dylech gymryd rhan mewn gweithgaredd corfforol pleserus yn rheolaidd.
Edrychwch ar yr adran Bwyta Diet Cytbwys am fwy o wybodaeth ynghylch bwyta'n iach. Hefyd, ewch at yr adran Barod i Unrhyw beth am wybodaeth ar fod yn fwy gweithgar. Bydd newidiadau bach megis mynd am dro amser cinio, neu ddefnyddio'r grisiau yn lle'r lifft yn helpu chi losgi'r egni sydd gennych dros ben, ac yn eich gwneud yn fwy ffit.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

