Ar Daith
Os mae rhywun yn mynd ar daith, dylid ystyried nifer o bethau cyn cychwyn. Ewch at yr adran Teithio'r Byd i wneud yn siwr eich bod yn gwybod popeth o safbwynt hanfodion teithio a'ch bod wedi cael yr holl bigiadau angenrheidiol. Er mwyn bod yn siwr y byddwch yn gyfforddus wrth hedfan, gwnewch yn siwr eich bod wedi darllen sut i gael cyn lleied o ludded jet â phosibl a sut i leihau'r risg o gael thrombosis gwythiennau dwfn (DVT). Cadwch allan o drafferth - gwnewch yn siwr eich bod yn ymwybodol o'r risgiau sy'n gysylltiedig â chyffuriau tra dros y môr.
Os ydych yn mynd ar eich gwyliau, neu'n gwneud ychydig o waith garddio, yn chwarae rownd o golff, neu'n gweithio allan ar y fferm, mae'n hanfodol eich bod yn edrych ar ôl eich croen. Mae' llawer o bobl yn gwybod fod gormod o haul yn gallu niweidio'r croen, a bod effeithiau cronnus torheulo parhaol, llosg haul, neu ddefnyddio gormod ar welyau haul yn gallu cynyddu'r risg o ganser y croen. Ewch at yr adran Peryglon yr Haul i weld sut i aros yn Diogel yn yr Haul a diogelu chi'ch hunan.

