Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Teithio'r byd

Teithio'r byd

Dach chi wedi penderfynu mynd ar daith, felly.

Mwynhau'r haul yn yr Algarve? Sgïo yn Val d'Isère? Heicio o gwmpas Cefnfro Awstralia? Beth bynnag 'dach chi'n bwriadu ei wneud, mae angen ystyried llawer o bethau cyn i chi gychwyn ar eich taith.

Tra 'dach chi'n brysur pacio dillad i'r haul a hylif haul, ac yn breuddwydio ynghylch crwydro ar hyd traethau o dywod aur a phalmwydd unig, cofiwch adael ychydig o amser i wneud yn siwr eich bod wedi ystyried yr holl Hanfodion Teithio a'ch bod wedi cael yr holl Frechiadau angenrheidiol.

Gwnewch yn siwr eich bod yn darllen sut i finimeiddio Lludded Jet a sut i leihau'r risg o Thrombosis Gwythiennau Dwfn er mwyn bod yn gyfforddus wrth i chi hedfan.

Cadwch allan o drafferth - gwnewch yn siwr eich bod yn ymwybodol o'r risgiau sydd ynghlwm wrth ymhél â Chyffuriau Tramor.

Ni ddylai llosg haul difetha'r gwyliau i chi, felly ewch at yr adran Diogelwch yn yr Haul hefyd.

I gael gwybodaeth a chyngor penodol ar eich dewis wlad, ewch at wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (www.fco.gov.uk) neu ffoniwch 0870 606 0290.

Yn olaf, mwynhewch eich ymweliad!