Cyffuriau tramor
Gall yr arfer o gymryd cyffuriau tramor fod yn fwy o risg na'u cymryd adref…. Yn gyntaf, gall cyffuriau sy'n cael eu prynu tramor fod yn wahanol - yn gryfach efallai. Yn ail, mae cynnydd sylweddol yn y risg o gorgynhesu a dadhydradu mewn gwledydd poeth. Yn drydydd, gall cyffuriau olygu eich bod yn llai ymwybodol o'r hyn sy'n digwydd a'r sefyllfa o'ch cwmpas - gall hyn fod yn beryglus iawn o ystyried eich bod mewn lle diarth a chyda phobl ddiarth.
Ar ben hyn oll, gall y gosb am fod â chyffuriau yn eich meddiant ac am eu cyflenwi fod yn llym iawn, ac mae'r amodau mewn carchar tramor yn gallu bod yn galed iawn.
Mewn rhai sefyllfaoedd, gall cael eich dal gyda chyffuriau yn eich meddiant tra rydych dros y mor olygu:
- Y gosb eithaf
mewn nifer o wledydd megis Gwlad Thai, Malaysia, Indonesia, Tsieina, Coweit, Pacistan, Yr Aifft, Yr India, Bangladesh a Singapore - Bywyd yn y carchar
mewn rhai gwledydd gan gynnwys Cyprus a Gwlad Groeg - Hyd at 20 mlynedd yn y carchar
mewn nifer o wledydd, gan gynnwys Tiwnisia a Thwrci.
Wrth ymweld â gwlad arall, rheolau'r wlad honno sy'n cario'r dydd, er mor llym maent yn ymddangos efallai. Ni fyddwch yn cael triniaeth well oherwydd mai dinesydd Prydeinig ydych.
Hefyd, cofiwch os ydych yn cael eich dal gyda chyffuriau tramor, mae'n bur debyg y byddwch yn cael eich gwahardd rhag ymweld â'r wlad honno byth eto. Byddwch hefyd yn cael cofnod troseddol yn y DU, sy'n gallu effeithio ar eich gallu i gael gwaith, bydd angen ei ddatgelu ar geisiadau yswiriant, a gall effeithio ar geisiadau fisa mewn rhai gwledydd (e.e. UDA).
Os ydych yn cael eich anafu tra rydych dan ddylanwad cyffuriau, neu os ydych yn mynd yn sâl oherwydd eich defnydd o gyffuriau, yn aml bydd hyn yn golygu nad yw'ch yswiriant teithio'n ddilys. Gall eich cwmni teithio hefyd gwrthod caniatáu i chi hedfan adref, felly byddai'n rhaid i chi wneud eich trefniadau hedfan eich hunan.
Cadwch allan o drafferth - dilynwch y rheolau sylfaenol canlynol:
- PEIDIWCH ymhél â chymryd, cludo neu ddelio mewn cyffuriau.
- DYLECH WASTAD bacio eich bagiau eich hunan, a'u cloi'n ddiogel.
- PEIDIWCH â gadael eich bagiau heb neb i ofalu amdanynt.
- PEIDIWCH BYTH â chludo eitemau neu fagiau trwy reolfa'r tollau dros bobl eraill.
- PEIDIWCH â gyrru cerbyd rhywun arall trwy reolfa'r tollau nag ar draws ffin gwlad.
- PEIDIWCH â rhoi benthyg eich cerbyd i unrhyw un arall.
- Os oes angen cludo meddyginiaeth rydych wedi cael ar bresgripsiwn gan feddyg, dylech fynd â'r presgripsiwn gyda chi rhag ofn i Swyddogion y Tollau eich holi yn ei chylch.
Gair ar alcohol...
Byddwch yn ymwybodol fod deddfau ac agweddau mewn perthynas ag alcohol yn wahanol mewn gwledydd eraill hefyd. Ni chaniateir alcohol mewn nifer o wledydd, gan gynnwys Sawdi-Arabia, Libya a Chuweit. Os ydych yn ceisio mewnforio alcohol i wlad lle mae'n anghyfreithlon, byddwch yn wynebu cosbau llym - ni fydd pledio "Doeddwn i ddim yn gwybod fy mod yn torri'r gyfraith" yn helpu chi ryw lawer.
Ewch at yr adran Beth Gymerwch Chi? am fwy o wybodaeth ar Gyffuriau.
Hefyd, gweler y wefan www.greatgapyears.co.uk sy'n cynnwys gwybodaeth ddefnyddiol ar gyffuriau tramor.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

