Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Thrombosis gwythiennau dwfn

goes

Beth yw hwn?

Tolchen mewn gwythïen yw Thrombosis Gwythiennau Dwfn (yn fwyaf cyffredin yn y goes). Cyflwr gweddol prin yw, ond gall fod yn ddifrifol, a hyd yn oed yn angheuol.

Pwy sydd mewn perygl?

Mae'r risg o DVT yn cynyddu os mae rhywun:

  • Dros 40 oed
  • Yn ordew
  • Yn feichiog neu wedi cael babi'n ddiweddar
  • Yn cymryd HRT neu'r bilsen atal cenhedlu
  • Â hanes teuluol personol o dolchenni
  • Yn dioddef o ganser, clefyd y galon, problemau gyda chylchrediad, clefyd y gwaed neu wedi cael llawdriniaeth yn ddiweddar (yn enwedig ar y cluniau neu'r pengliniau)

Mae cyswllt rhwng DVT a chyfnodau hir o lonyddwch (er enghraifft, ar awyren, mewn car neu ar drên). Mae cyswllt penodol rhwng DVT a theithiau awyr hir (dros 5 awr o hyd). Gall DVT ddigwydd dyddiau neu hyd yn oed wythnosau ar ôl i chi deithio.

Beth yw'r symptomau?

Ymysg symptomau DVT mae chwydd, poen neu deimlo'n dendr, a chochni yn y man dan sylw (fel arfer, cefn y goes o dan y pen-glin). Os ydych yn dechrau gweld y symptomau hyn, dylech gael cymorth meddygol ar unwaith.

Mae DVT yn fwyaf peryglus os bydd y dolchen yn cyrraedd yr ysgyfaint lle gall wedyn effeithio ar allu'r unigolyn i anadlu ocsigen (yr enw ar hyn yw "emboledd ysgyfeiniol"). Mewn achosion difrifol, gall wedyn achosi i'r ysgyfaint datchwyddo ac i'r galon fethu.

Weithiau, does dim symptomau amlwg o DVT nes bo'r emboledd ysgyfeiniol yn datblygu, ond yn ffodus iawn, anaml iawn mae hyn yn digwydd.

Beth ellir ei wneud i leihau'r risg?

Os ydych mewn un o'r grwpiau risg mawr, dylech drafod hyn gyda'r meddyg cyn hedfan.

Yn ystod teithiau hir (yn enwedig teithiau hir mewn awyren):

  • Dylech osgoi croesi'ch coesau.
  • Bob rhyw hanner awr, dylech blygu ac yna sythu eich coesau, eich traed a bysedd eich traed a throi eich pigyrnau.
  • Pan mae'n ddiogel, ewch am dro bob hyn a hyn i fyny ac y lawr y caban, gan ymestyn eich coesau a'ch breichiau.
  • Peidiwch â mynd yn ddadhydredig trwy yfed digon o ddwr neu sudd oren, a dylech osgoi alcohol a diodydd gyda chaffein.
  • Gwisgwch ddillad cyfforddus, llac.
  • Gwisgwch sanau cywasgu elastig.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »