Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Lludded jet

Gall hedfan trwy gylchfâu amser gwahanol achosi i gloc naturiol eich corff ddrysu. Yr enw cyffredin ar yr effaith yma ar eich corff yw "lludded jet" - gall effeithio ar batrymau cwsg, ar eich system dreulio, ar eich cof; gall lleihau'r gallu i ganolbwyntio a gwneud i chi deimlo wedi blino'n lân ac yn groendenau.

Fodd bynnag, gallwch wneud nifer o bethau i leihau'r anghysur y mae lludded jet yn ei achosi.

Amser

Amser

Mae rhai pobl yn darganfod ei fod o fudd newid eu wats i'r gylchfa amser newydd syth ar ôl cychwyn hedfan, er mwyn rhoi cymaint o amser ag sy'n bosibl i'w cyrff gyfarwyddo - er hynny, nid yw hyn efallai'n addas i bobl sy'n cymryd meddyginiaeth yn gyson ar gyfer clefyd megis diabetes.

Ar ôl cyrraedd pen eith taith, dylech addasu eich amseroedd bwyta ac amser mynd i'r gwely i gyd-fynd â'r gylchfa amser newydd, a hynny cyn gynted â phosibl. Hefyd, dywedir fod mynd allan i olau dydd naturiol yn helpu'r corff i ymgyfarwyddo â'r gylchfa amser newydd.

Cysgu

Er mwyn helpu'r corff i ymgyfarwyddo â chylchfâu amser gwahanol:

  • Os ydych yn hedfan tua'r dwyrain, ceisiwch fynd i'r gwely'n gynharach am gwpl o nosweithiau cyn hedfan.
  • Os ydych yn hedfan tua'r gorllewin, ceisiwch fynd i'r gwely'n hwyrach am gwpl o nosweithiau cyn hedfan.

Gofalwch eich bod yn cael digonedd o gwsg cyn hedfan, a cheisiwch gysgu yn ystod teithiau hir mewn awyren.

dwr

Diodydd

Peidiwch â mynd yn ddadhydredig - yfwch ddigon o ddwr cyn, yn ystod ac ar ôl hedfan. Ceisiwch osgoi yfed alcohol neu ddiodydd sy'n cynnwys caffein yn ystod eich taith yn yr awyren.

Ymarfer corff

Yn ystod eich taith ar yr awyren - dylech ymestyn eich corff yn y gadair, ewch am dro yn y caban (pan mae'n ddiogel), a dylech wneud ymarferion i'r traed a'r coesau.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »