Hanfodion teithio
Pasport
Os ydych yn mynd ar daith tu allan i'r DU, bydd angen pasport arnoch chi - gwnewch yn siwr eich bod yn gwneud cais am un mewn digonedd o amser.
Os oes gennych basport yn barod, gwnewch yn siwr ei fod dal yn ddilys, ac nad yw'n rhedeg allan tan o leiaf chwe mis ar ôl i chi ddod yn ôl (mae rhai gwledydd yn mynnu cael hyn).
Gwnewch yn siwr eich bod wedi llenwi'r adran yn y cefn yn ymwneud â pherthynas agosaf.
Fisâu
Mae angen fisa mewn rhai gwledydd.
Dylech gadarnhau'r anghenion ar gyfer eich dewis wlad - ewch at wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad (www.fco.gov.uk) neu ffoniwch www.fco.gov.uk ar 020 7008 8438.
Gwnewch yn siwr eich bod yn cael y fisâu angenrheidiol os oes angen.
Os ydych yn bwriadu ymweld â gwlad tu allan i'r Undeb Ewropeaidd, ac yn bwriadu gweithio tra rydych yno, bydd angen trwydded gwaith arnoch chi hefyd.
Trwydded yrru
Os ydych chi'n bwriadu hurio car tra ar eich gwyliau, bydd angen mynd â'ch trwydded yrru gyda chi (er cofiwch y bydd angen Trwydded Yrru Ryngwladol mewn gwledydd nad ydynt yn aelodau o'r Undeb Ewropeaidd neu'r Gymdeithas Economaidd Ewropeaidd).
Os ydych yn mynd â'ch car eich hunan, gwnewch yn siwr fod eich polisi yswiriant yn addas ar gyfer gyrru yn eich dewis wlad.
Yswiriant teithio
Gall pethau fynd o chwith, felly gwnewch yn siwr fod gennych bolisi yswiriant!
Dylech wneud ymholiadau i gael y polisi mwyaf addas, a dylech ddarllen y print mân bob tro - dylech roi sylw i fanylion y polisi, yn enwedig os ydych yn feichiog, os oes gennych gyflwr meddygol eisoes yn bod, neu os ydych yn bwriadu cymryd rhan mewn gweithgareddau chwaraeon (e.e. naid bynji, jet sgïo).
Dylech fynd â manylion eich polisi a'r rhif ffôn 24 awr mewn achos argyfwng gyda chi ar eich ymweliad.
E111
Mae'r ffurflen "E111" yn galluogi trigolion y DU sy'n gymwys, i gael triniaeth feddygol frys yn rhad ac am ddim neu am bris gostyngedig wrth deithio o fewn yr Undeb Ewropeaidd.
Roedd yr hen ffurflenni E111 yn dod i ben ar 31ain Rhagfyr 2004, felly gwnewch yn sïwr fod y ffurflen newydd gennych (mae angen ffurflen unigol ar bob aelod o'r teulu rwan). Bydd y ffurflenni newydd yn dod i ben ar 31ain Rhagfyr 2005, ac ar ôl hynny bydd y DU yn mabwysiadu'r cerdyn electronig newydd - Cerdyn Yswiriant Iechyd Ewropeaidd (EHIC)
Ewch at wefan yr Adran Iechyd am fwy o wybodaeth ac am ffurflen gais ar lein - www.dh.gov.uk
Noder: NID yw'r E111/EHIC yn cymryd lle yswiriant teithio.
Pwsig
Cyn i chi fynd, gwnewch ddau gopi o'ch holl ddogfennau teithio pwysig (pasport, fisa, trwydded yrru, manylion yswiriant teithio, E111, ac ati). Ewch ag un copi gyda chi ar eich taith, a'i gadw mewn lle diogel (ar wahân i'r copi gwreiddiol), a gadewch y llall gyda ffrind neu aelod o'r teulu - gorau oll, rhywun o fewn cyrraedd i beiriant ffacs, er mwyn iddynt allu anfon copi ffacs atoch os oes angen.
Arian, arian, arian
Ewch â chymysgedd o arian parod, sieciau teithio, a chardiau credyd gyda chi. Ewch â mwy o arian nag sydd ei angen yn eich tyb chi, rhag ofn y bydd argyfwng yn codi.
Brechiadau
Ewch at y Feddygfa leol o leiaf 6 wythnos cyn i chi fynd ar daith i gadarnhau'r anghenion mewn perthynas â brechiadau sydd eu hangen yn eich dewis wlad. Ewch at yr adran Brechiadau am fwy o wybodaeth.
Deddfau ac arferion
Prynwch arweinlyfr da, a darllenwch ynghylch arferion a diwylliant (e.e. cod gwisgo) a deddfau yn eich dewis wlad/wledydd cyn i chi fynd.
Er enghraifft, oeddech chi'n gwybod:
- Fod torheulo bronnoeth yn anghyfreithlon ar y rhan fwyaf o draethau Fflorida?
- Gallwch gael dirwy sylweddol os ydych yn rhegi neu'n gwneud ystum anweddus yng Nghenia?
- Gallwch fynd i'r carchar am ddefnyddio camera neu ysbienddrych wrth ymyl safleoedd milwrol yn yr Aifft?
- Gallwch gael dirwy yn y fan a'r lle am ollwng sbwriel yn Singapore?
- Gallwch fynd i'r carchar am 3-15 mlynedd os ydych yn beirniadu'r Brenin neu aelod arall o'r teulu Brenhinol yng Ngwlad Thai?
- Gallwch gael y gosb eithaf mewn nifer o wledydd gan gynnwys Tsieina, Malaysia ac Indonesia os ydych yn cael eich dal gyda chyffuriau tramor.
Iaith
Prynwch lyfr ymadroddion i'w ddefnyddio mewn achos argyfwng.
Pethau Personol
Os ydych yn credu y bydd angen condomau arnoch tra rydych yn teithio, ewch â digon gyda chi - nid yw'n hawdd cael hyd iddynt dramor weithiau, ac efallai nad yw'r ansawdd cystal ag yn y DU. Am fwy o wybodaeth ar atal cenhedlu, gweler yr adran Rhwng y Cynfasau.
Manylion cyswllt
Gadewch gopi o fanylion eich taith a manylion cyswllt gyda'ch teulu a'ch ffrindiau adref. Rhowch wybod iddynt os oes unrhyw beth yn newid.

