Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Brechiadau

Brechiadau

Yn dibynnu ar eich dewis wlad, bydd angen i chi gael brechiadau penodol argymelledig cyn i chi deithio. Ar gyfer rhai lleoliadau, bydd angen i chi gymryd cwrs o dabledi Malaria hefyd.

Os ydych yn trefnu gwyliau ymlaen llaw, ewch at eich meddygfa leol o leiaf 6 wythnos cyn mynd ar eich gwyliau, i gadarnhau'r brechiadau fydd eu hangen yn eich dewis wlad/wledydd.

Hyd yn oed os mai gwyliau "hwyr" sydd gennych, dylech gadarnhau pa frechiadau sydd eu hangen a'u trefnu cyn i chi adael.

Gofalwch eich bod yn rhoi i'r meddyg neu'r nyrs practis fanylion ynghylch unrhyw feddyginiaeth arall rydych yn ei chymryd cyn cael eich brechiadau.

Os ydych wedi cael brechiad arbennig o'r blaen, gofalwch ei fod dal yn ddilys. Ar ôl cael eich brechiadau, cadwch eich tystysgrifau brechiad gyda'ch pasport fel bydd yr wybodaeth ar gael wrth i chi drefnu'ch taith nesaf.

Mae'n bwysig nodi nad yw brechiadau yn cynnwys pob posibilrwydd. Er enghraifft, nid yw'n arferol i deithwyr cael brechiad yn erbyn y cynddaredd, ond unwaith mae'r clefyd yn cychwyn, mae fel arfer yn angheuol. Gellir dal y cynddaredd trwy gel eich brathu gan anifail sy'n cario'r clefyd, felly mae'n bwysig peidio â chyffwrdd ag unrhyw anifeiliaid, boed yn rhai gwyllt, ar goll neu'n rhai "dof" yn ôl pob golwg.

Am fwy o wybodaeth ynghylch brechiadau ac atal clefydau, ewch at www.travelhealth.co.uk neu at wefan y Swyddfa Dramor a Chymanwlad www.fco.gov.uk.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »