Peryglon yr haul
Mae'r rhan fwyaf o bobl wrth eu bodd allan yn yr heulwen. Mae teimlo'r haul ar ein croen yn gwneud inni deimlo'n hapus ac wedi ymlacio ac yn rhoi fitaminau angenrheidiol i'n cadw'n iach.
Ond gall gormod o haul niweidio ein croen a, boed yn gwneud ychydig o waith yn yr ardd, chwarae golff, gweithio ar safle adeiladu, gwneud gwaith cynnal a chadw ar y ffyrdd, gweithio allan ar y fferm, neu ymlacio ar y traeth, mae'n hanfodol gofalu am eich croen.
Mae llawer o bobl yn ystyried lliw haul fel arwydd o iechyd. A dweud y gwir, arwydd yw bod y croen wedi cael ei niweidio. Bydd croen â lliw haul yn edrych yn hyn yn gynt, ac yn crychu'n gynnar.
Gwaeth fyth, mae'r arfer o gael lliw haul dro ar ôl tro, neu'n barhaol yn cynyddu'r risg o gael canser y croen. Mae effeithiau cronnus llosg haul neu ddefnyddio gormod ar welyau haul yn gallu cynyddu'r risg o ganser y croen.
Y ffasiwn ddiweddaraf yw cael croen golau a hardd yn hytrach na bod â lliw haul nam angheuol, felly gweler yr adran Diogelwch yn yr Haul i weld sut i ddiogelu eich hunan yn yr haul.

