Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

workman out in the sun

Canser y croen

Ffaith: Canser y croen yw un o'r canserau mwyaf cyffredin yn y DU ac mae'r nifer sy'n dioddef ohono yn cynyddu.
Ffaith: Erbyn hyn mae dros 69,000 o achosion newydd o ganser y croen yn cael eu cadarnhau bob blwyddyn yn y DU (er, nid yw llawer o bobl yn mynd at eu meddyg yn ei gylch, felly mae'n debyg fod y nifer gwirioneddol llawer uwch na hyn).
Ffaith: Mae'r nifer o achosion o felanoma malaen (sef y math mwyaf peryglus o ganser y croen) wedi mwy na dyblu ers blynyddoedd cynnar y 1980au.
Ffaith: Mae dros 1,700 o bobl yn marw oherwydd canser y croen bob blwyddyn yn y DU.

Beth sy'n achosi canser y croen?

Yr hyn sy'n achosi'r rhan fwyaf o ganserau'r croen yw niwed gan belydrau uwchfioled yr haul. Gellir atal hyd at 80% o'r canserau hyn trwy ddefnyddio dulliau amddiffyn yn erbyn yr haul.

Oes gwahanol fathau o ganser y croen yn bodoli?

Mae dau brif fath o ganser y croen yn bodoli:

Melanoma malaen

Melanoma malaen, a elwir hefyd yn 'melanoma', yw math mwyaf difrifol o ganser y croen.

  • Cyffredinrwydd:
    Bob blwyddyn yn y DU mae dros 7,000 o bobl yn cael cadarnhad eu bod yn dioddef o felanoma malaen.
  • Symptomau:
    Fel arfer, mae'n datblygu yn y celloedd o fewn haen allanol y croen. Yr arwydd gweledol cyntaf o hyn yn aml yw newid mewn gwedd neu deimlad arferol man geni. Cer at yr adran gwirio mannau geni am fwy o wybodaeth.
  • Lleoliad:
    Ar y coesau y gwelir melanoma ran amlaf mewn merched. Ar y cefn y gwelir hwy ran amlaf mewn dynion.
  • Gwelladwyedd:
    Gellir trin melanoma yn llwyddiannus o'i ddal yn gynnar. Fodd bynnag, os na roddir triniaeth i felanoma malaen, gall lledu i rannau eraill o'r corff, a gall fod yn angheuol.

    Os ydych chi'n sylwi ar newidiadau mewn man geni neu mewn croen oedd yn normal o'r blaen, mae'n bwysig gwneud rhywbeth yn syth. Nid canser sy'n achosi'r rhan fwyaf o newidiadau, ond mae angen sicrhau beth sy'n eu hachosi.

Non-melanoma

Canser y croen non-melanoma yw'r math mwyaf cyffredin o ganser, a'r hawddaf i'w drin.

  • Cyffredinrwydd:
    Mae dros 62,000 o achosion newydd yn cael eu nodi bob blwyddyn yn y DU.
  • Symptomau:
    Lympiau bach crwn neu wastad, sydd yn goch, yn olau neu'n berlaidd eu lliw. Weithiau mae'n ymddangos fel croen â llid yn debyg i ecsema. Neu fel smotyn, lwmp, briw neu wlser sy'n cosi, brifo, neu sydd â chramen, neu grachen, neu sy'n gwaedu o hyd.
  • Lleoliad:
    Ran amlaf, mae'r canserau hyn yn ymddangos ar fannau'r corff sydd allan yn yr haul fwyaf, megis y pen, y gwddf, y dwylo a'r elinau.
  • Gwelladwyedd:
    Mae'n bosibl gwella bron pob achos o ganser y croen non-melanoma pe'u darganfyddir yn gynnar.

Pwy sydd mewn perygl o ganser y croen?

Dylai pawb fod yn ofalus yn yr haul. Dim bwys pa liw croen sydd gennych, dylai pawb gymryd gofal i ddiogelu eich hunan rhag effaith niweidiol pelydrau uwchfioled.

Mae rhai pobl, ers eu geni, yn fwy tebygol o gael canser o'r croen. Mae'r bobl hyn yn dueddol o:

  • losgi'n hawdd
  • bod â chroen golau a/neu frychni
  • bod â gwallt coch neu olau a/neu lygaid golau
  • bod wedi cael canser y croen o'r blaen
  • bod â nifer fawr o fannau geni (50+)
  • bod aelod o'r teulu wedi cael canser y croen (yn enwedig melanoma)
  • bod wedi cael llosg haul difrifol yn y gorffennol.

Os mae un neu fwy o'r disgrifiadau yn y rhestr uchod yn berthnasol i chi, dylech gymryd gofal arbennig i ddiogelu eich hunan yn yr haul.

Mae angen diogelu babanod a phlant yn yr haul hefyd oherwydd mae eu croen nhw'n dyner ac yn cael ei ddifrodi'n hawdd. Ni fyddwch yn gallu gweld y difrod ar unwaith, oherwydd gall canser y croen gymryd blynyddoedd i ddatblygu. Ond mae plant sy'n treulio gormod o amser allan yn yr haul rwan yn hel problemau at y dyfodol. Gall Llosg Haul tra'n blentyn dyblu'r risg o gael canser y croen. Gwnewch yn siwr fod plant naill ai'n aros yn y cysgod neu'n gwisgo dillad i'w gorchuddio, ac yn defnyddio sgrin haul ffactor uchel. Ni ddylid byth adael babi yn yr haul uniongyrchol.

meddyg

Os ydych yn sylwi ar newidiadau mewn man geni neu mewn croen oedd yn normal o'r blaen, mae'n bwysig gweithredu ar unwaith. Nid canser sy'n achosi'r rhan fwyaf o newidiadau, ond mae angen cadarnhau hyn.

Beth sy'n digwydd wrth ymweld â'r meddyg?

Bydd melanoma yn lledu i rannau eraill o'r corff os nad yw'n cael ei drin, felly mae'n hanfodol mynd at y meddyg syth ar ôl sylwi ar unrhyw symptomau.

Pan ewch at y meddyg, bydd ef/hi'n edrych yn ofalus ar y man geni neu'r man tywyll. Os nad yw ef/hi'n sicr ei fod yn iawn, bydd yn cyfeirio chi at arbenigwr mewn ysbyty. Os mae'r arbenigwr yn credu mai melanoma yw, byddwch yn cael triniaeth lawfeddygol syml gan ddefnyddio anaesthetig lleol. Wedyn bydd y man geni'n cael ei archwilio'n ofalus o dan ficrosgop. Os ceir cadarnhad mai melanoma yw, byddwch yn cael mwy o driniaeth, ac yn cael gwahoddiad i fynd i'r ysbyty'n rheolaidd ar gyfer gwiriad.

Edrychwch ar eich mannau geni

Dyma restr wirio i helpu chi i benderfynu a ddylech dangos eich man geni neu fan tywyll ar eich croen i'r meddyg. Gall fod yn anodd gweld y mannau geni ar eich cefn, ond gallwch ofyn i ffrind neu bartner edrych arnynt drosoch chi.

Arwyddion mawr

Dylech fynd i weld eich meddyg ar unwaith os mae'r man geni:

  • yn newydd neu'n tyfu - mae mannau geni'n newid mewn plant, ond mae hyn yn dod yn llai cyffredin wrth inni fynd yn hyn, a gall fod yn rhybudd
  • â min carpiog - min llyfn, rheolaidd sydd i fannau geni cyffredin
  • yn cynnwys lliwiau gwahanol - gall fannau geni cyffredin fod yn frown tywyll eu lliw, ond maent â'r un arlliw. Dylid trefnu gweld y meddyg ynghylch man geni sy'n cynnwys arlliwiau gwahanol o ddu a brown.

Arwyddion bach

Nid yw'r arwyddion canlynol o reidrwydd yn golygu fod melanoma arnoch, ond dylech wylio allan amdanynt yr un peth. Os nad yw'r man geni neu'r man tywyll yn mynd yn ôl i'w olwg arferol o fewn pythefnos, peidiwch â'i anwybyddu.Dylech fynd at y meddyg os mae'r man geni:

  • yn llidus neu â min coch iddo - nid yw mannau geni arferol yn mynd yn llidus
  • yn gwaedu, yn diferu neu â chrystyn - nid yw mannau geni arferol yn gwneud hyn
  • yn teimlo'n rhyfedd neu'n cosi - dylech fynd at y meddyg gydag unrhyw newid yn y ffordd mae'r man geni'n teimlo. Nid yw mannau geni arferol yn cosi neu'n boenus
  • yn fwy na'r mannau geni eraill sydd gennych.

Cyswllt gwybodaeth

Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »

Yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan Cancer Research UK - www.sunsmart.org.uk