Gwelyau haul
Yn debyg i'r haul, mae gwelyau haul yn rhyddhau pelydrau uwch-fioled. Prif achos canser y croen yw datguddio'r croen i belydrau uwch-fioled.
Felly, yn debyg iawn i dorheulo, mae defnyddio gwely haul yn gallu cynyddu'r risg o gael canser y croen. Mwyaf mae rhywun yn defnyddio gwely haul, mwyaf fydd y risg, a phan fydd eich lliw yn pylu, bydd y difrod i'r croen yn aros ar ôl.
Mae gwelyau haul hefyd yn achosi i'r croen heneiddio'n gynnar, sy'n golygu y bydd eich croen yn crychu, yn caledu ac yn amharu'n gynharach.
Pwy sy'n agored i'r risg mwyaf?
Pobl â chroen golau sy'n dueddol o losgi yw'r rhai sydd fwyaf tebygol o gael problemau o ganlyniad iddefnyddio gwely haul, yn hytrach na phobl sydd â chroen tywyllach. Ac os nad ydych yn cael lliw haul yn yr haul, ni fyddwch yn cael lliw yn haws ar wely haul.
Ni ddylech FYTH defnyddio gwely haul os:
- ydych chi dan 16 oed
- mae'ch croen yn olau neu â brychni
- ydych chi'n llosgi'n hawdd
- oes gennych lawer o fannau geni
- ydych chi wedi cael canser y croen yn y gorffennol
- oes hanes canser y croen yn eich teulu
- ydych chi'n defnyddio meddyginiaeth sy'n cynyddu'ch sensitifrwydd i belydrau uwch-fioled?
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan Cancer Research UK - www.sunsmart.org.uk

