Llosg haul
Gwnewch yn siwr eich bod byth yn llosgi
Mae dau fath gwahanol o belydrau Uwch Fioled yn bodoli sy'n gallu gwneud difrod i'n croen, sef UVA a UVB.
Mae pelydrau UVA yn treiddio'n ddwfn i'r croen ac yn achosi iddo heneiddio, crychu ac ysigo. Mae gwyddonwyr yn credu y gall pelydrau UVA hefyd achosi canser y croen.
Mae pelydrau UVB yn fwy peryglus ac mae'n debyg mai hwn yw'r prif ffactor sy'n achosi'r mathau gwahanol o ganser y croen. Mae pelydrau UVB yn cael yr effaith fwyaf ar y celloedd sydd jyst o dan wyneb y croen. Gall pelydrau UVB achosi i'r croen fynd yn goch, yn llidus ac yn boenus mewn cyn lleied â 15 munud. Dyna yw llosg haul.
Gall llosg haul dyblu'r risg o gael canser y croen
Mae arbenigwyr yn credu fod llosg haul tra'n blentyn yn gallu golygu cynnydd sylweddol yn y tebygolrwydd o gael melanoma malaen. Mae rhai hefyd yn dweud fod y tebygolrwydd o ddatblygu'r math hyn o ganser y croen yn cael ei ddyblu o gael llosg haul (gyda phothelli) dim ond unwaith cyn eich bod yn 20 oed.
Hawdd yw llosgi'n hollol annisgwyl
Mae llawer o achosion o losg haul yn digwydd pan nad yw pobl yn 'torheulo' - gallwch fod allan yn gwylio chwaraeon, yn garddio neu'n eistedd yn y parc.
Byddwn yn anghofio'n aml iawn pa mor gryf mae'r haul. Nid oes rhaid i'r haul deimlo'n boeth er mwyn gwneud difrod i'n croen. Mae'r gwres yn yr haul yn dod o belydrau is-goch, nid pelydrau uwch-fioled - felly mae dal yn bosibl llosgi ar ddyddiau claear.
Pa ffactorau sy'n effeithio ar ddwyster ymbelydredd uwch-fioled?
- Adeg y flwyddyn
Y misoedd sydd â'r risg fwyaf ym Mhrydain yw mis Mai i fis Medi fel arfer. Mae ymbelydredd uwch-fioled yn aros yn uchel drwy gydol y flwyddyn o gwmpas y cyhydedd - Amser y dydd
Mae ymbelydredd uwch-fioled ar ei ddwysaf pan mae'r haul yn uchel yn y nen, tua chanol dydd. - Adlewyrchiad
Gall ymbelydredd uwch-fioled adlewyrchu o wynebau megis eira, tywod, golau, paent, teils, sment a dwr. Gall y pelydrau hyn sy'n cael eu hadlewyrchu cyrraedd eich wyneb hyd yn oed o dan het. - Gorchudd cwmwl
Gallwch losgi ar ddiwrnod pan fo cymylau tenau o gwmpas, ond mae cymylau trwchus yn rhoi peth amddiffyn i chi. - Uchder
Mae ymbelydredd uwch-fioled yn cynyddu gydag uchder.
Beth i'w wneud os ydych yn llosgi
Os ydych yn llosgi, mae'n bur debyg y byddwch yn pilio. Dyma ffordd y corff o gael gwared â chelloedd croen wedi'u difrodi - y rhai gall ddatblygu canser.
Trwy ddefnyddio llawer o leithydd, byddwch yn helpu lleddfu ar y sychder, ond ni fyddwch yn dadwneud y difrod a wnaethpwyd yn barod.
Dylech yfed llawer o ddwr er mwyn lleihau dadhydradiad. Ac arhoswch allan o'r haul yn gyfan gwbl nes bo'r cochni wedi diflannu.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Yn seiliedig ar wybodaeth a ddarparwyd gan Cancer Research UK - www.sunsmart.org.uk

