Diogelwch yn yr Haul
Cofiwch, os am aros yn ddiogel yn yr haul, dilynwch y canlynol. A chofiwch, mae'r canllawiau hyn yr un mor berthnasol i fod allan yn yr awyr iach yng Nghymru â bod ar wyliau tramor neu'n gweithio tramor.
- Cadwch allan o'r haul rhwng 11-3
Yng nghanol y dydd y mae'r haul fwyaf peryglus yn yr haf - felly chwiliwch am gysgod dan ymbarél, coed, canopy neu dan do. - Gwnewch yn siwr eich bod byth yn llosgi
Gall llosg haul ddyblu'r risg o gael canser y croen. - Gorchudd bob tro
Nid yw eli haul yn ddigon - dylid gwisgo crys-T, het lydan a sbectol haul amlapio (gall yr haul wneud niwed i'r llygaid hefyd). - Cofiwch fod yn ofalus iawn gyda'r plant
Mae croen plant yn dyner iawn. Dylid cadw babis allan o'r haul yng nghanol y dydd. - Defnyddiwch sgrin haul ffactor 15+
Defnyddiwch sgrin haul (yn drwyadl) rhyw 15-30 munud cyn mynd allan i'r haul (nid yw'n gweithio ar unwaith), ac ail-ddefnyddiwch yn aml yn ystod y dydd.
Hefyd, mae angen dweud wrth y meddyg ar unwaith pe ddigwydd i chi weld newid mewn mannau geni neu unrhyw dyfiant anghyffredin ar y croen.
Cyswllt gwybodaeth
Mae'r bas data ar asiantaethau'n cynnwys manylion cyswllt mudiadau fydd efallai yn gallu cynnig gwybodaeth neu gymorth ar y pwnc yma.
Chwilio'r bas data »
Atgynhyrchwyd cod SunSmart gyda chaniatâd caredig Cancer Research UK - www.sunsmart.org.uk

