Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Dan Bwysau

Dan Bwysau

Mae bywyd pawb yn brysur yr oes hon, ac mae pawb yn teimlo dan bwysau o dro i dro. Ond ydych chi'n gwybod beth yw straen, y symptomau i chwilio amdanynt os ydych yn meddwl eich bod dan bwysau?, neu sut i symud o gyfyngder i fod yn ddi-straen? Ewch at yr adran ar Straen am fwy o wybodaeth.

Yn aml, byddwn yn clywed pobl yn dweud "Dwi'n teimlo'n isel" pan maent yn teimlo'n drist neu wedi syrffedi ar fywyd. Fodd bynnag, os oes Iselder arnoch, mewn gwirionedd rydych chi'n sâl. Mae'r adran hon hefyd yn cynnwys gwybodaeth ar symptomau iselder, sut i helpu'ch hunan, mathau gwahanol o driniaeth ar gyfer iselder, a sut i helpu rhywun arall sy'n dioddef o iselder.

Gweithred hunan-achosedig bwriadol yw hunan-niwed sy'n achosi niwed i'r corff. Ymysg y dulliau mwyaf cyffredin o hunan-niwed mae torri neu losgi'r croen, neu gymryd gorddos o gyffuriau. Ewch at yr adran ar Hunan-niwed am fwy o wybodaeth ar y rhesymau dros hunan-niweidio. Os ydych chi'n hunan-niweidio er mwyn ymdopi, cewch weld dulliau i helpu'ch hunan, neu os ydych yn adnabod rhywun sy'n niweidio ei hunan, gweler yr adran ar helpu rhywun arall er mwyn darganfod sut i gynnig gofal a chefnogaeth iddynt.

Agwedd arall sy'n gallu arwain at deimlad o bwysau, yw bwlio. Gall fwlio, o bob math, ddigwydd mewn pob math o leoedd - yn y cartref, yn yr ysgol, ar y stryd, a hyd yn oed yn y gweithle. Gweler yr adran ar Bwlio am wybodaeth ar ba fath o ymddygiad sy'n cael ei ystyried yn fwlio, pam mae bwlis yn bwlio a sut i atal bwlio.