Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Bwlio

Bwlio

Beth yw bwlio?

Gall fwlio, mewn dulliau amrywiol, ddigwydd mewn pob math o lefydd - yn y cartref, yn yr ysgol, ar y stryd, a hyd yn oed yn y gweithle. Weithiau unigolyn sy'n gwneud y bwlio, tra weithiau grwp o fwlis sydd wrthi.

Mae pob math o ymddygiad yn cael ei gyfrif fel bwlio, gan gynnwys:

  • Galw enwau ar rywun, pryfocio neu wawdio
  • Dweud pethau cas neu roi si ar led am rywun
  • Sicrhau mai ti sy'n cael y bai am bethau mae rhywun arall wedi'u gwneud
  • Dy orfodi i wneud pethau nad wyt am eu gwneud neu bethau nad ydynt yn iawn yn dy farn di
  • Troi at ymddygiad corfforol (er enghraifft bwrw, cicio neu wthio ti)
  • Cymryd pethau oddi wrthyt (er enghraifft dy het, bag neu ffôn symudol)
  • Dy orfodi i roi pethau sy'n perthyn i ti iddyn nhw (er enghraifft, arian cinio)
  • Gwneud difrod i neu dorri pethau sy'n perthyn i ti
  • Ceisio gwneud i ti edrych yn hurt neu'n wirion
  • Anwybyddu ti neu dy allgáu o bethau
  • Bygwth, dychryn neu godi ofn arnat ti
  • Bygwth gwneud difrod i dy eiddo di, neu niweidio dy deulu, ffrindiau neu anifeiliaid anwes
  • Cymryd ffrindiau oddi wrthyt neu eu troi yn dy erbyn
  • Gwneud galwadau ffôn sarhaus, neu dy ffonio a dweud dim
  • Anfon nodiadau, llythyrau, negeseuon testun neu negeseuon e-bost cas atat
  • Rhoi negeseuon cas amdanat ti mewn siopau siarad neu fforymau ar y Rhyngrwyd.