Sut i'w stopio
Mae bwlio'n parhau oherwydd bod pobl yn cadw'n gyfrinach, ac felly mae'n parhau. Does dim rhaid i neb ddioddef bwlio.
Os wyt ti'n cael dy fwlio
Os am roi stop ar fwlio, dylid gwneud rhai pethau penodol ond nid pethau eraill.
- PAID: â dangos i'r bwlis bod eu sylwadau'n dy boeni.
Mae'r bwli yn edrych am ymateb gennyt - paid â rhoi hynny iddyn nhw. - DYLID: Ceisio edrych mor hyderus â phosibl.
Hyd yn oed os mae dy goesau'n teimlo fel jeli a'th galon yn curo, edrych i fyw llygad y bwli a dywed wrtho am stopio. - PAID: Ag ildio i'r temtasiwn o fwrw'r bwli yn ôl.
gallet gael d'anafu, neu gallet gael dy gyhuddo o fod yn fwli dy hunan. - DYLID: Gwneud nodyn o'r holl bethau mae'r bwli wedi eu dweud neu wneud.
- PAID: â beio dy hunan.
Y bwlis sydd angen newid - nid ti. - PAID: â chadw'r bwlio'n gyfrinach.
- DYLID: TRAFOD Y SEFYLLFA GYDAG OEDOLYN RWYT YN YMDDIRIED YNDDO.
rhiant, athro, brawd/chwaer hyn, nain neu daid, perthynas arall, neu ffrind hyn. Os nad ydynt yn dy gymryd o ddifrif, cer at rywun arall nes bo rhywun yn gwrando arnat ti. - DYLID: Rhoi'r holl fanylion iddynt.
Dywed wrthynt pwy yw'r bwli/bwlis, popeth sydd wedi digwydd, pa mor aml mae wedi digwydd, os oedd rhywun arall wedi gweld yr hyn ddigwyddodd, ac os felly, pwy. - DYLID: Dweud y gwir.
Paid â chreu unrhyw beth, nac addurno na chwyddo unrhyw ffeithiau. - DYLID: Trafod yr hyn hoffet ti wneud ynghylch y broblem.
Os mae'r oedolyn yn awgrymu rhywbeth fydd yn dy farn di, yn gwneud y sefyllfa'n waeth, dywed hyn. Paid â gadael iddynt gymryd drosodd - dylet drafod gyda'ch gilydd yr hyn hoffet ei wneud.
Os wyt o dan 18 oed, ac yn teimlo nad oes gennyt neb i drafod y broblem, ffonia Childline ar 0800 11 11. Os mae'r bwlio cynddrwg dy fod yn methu â pharhau, gall y Samariaid fod o gymorth - ffonia nhw ar 08457 90 90 90.
Os mae rhywun arall yn cael ei fwlio
Efallai nad ti sy'n cael dy fwlio, ond rhywun rwyt ti'n adnabod - ffrind, disgybl yn yr un dosbarth, rhywun o flwyddyn ysgol wahanol, hyd yn oed rhywun heb unrhyw ffrindiau efallai...
- PAID: â chwarae rhan yn y bwlio.
- PAID: â cheisio brwydro yn erbyn y bwlis
gallet gael dy anafu, neu gallet fynd i drafferth. - PAID: ag anwybyddu'r bwlio.
- DYLID: Gwrando ar rywun sy'n dweud wrthyt ei fod yn cael ei fwlio.
Bydd yn barod i'w helpu a'u cefnogi. - DYLID: Eu hannog i ddweud wrth oedolyn am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd.
Gallet gynnig mynd gyda nhw i weld athro neu oedolyn arall. Os nad yw am siarad ag oedolyn am yr hyn sydd wedi bod yn digwydd, gallet gynnig gwneud hyn ar ei ran.
Gall oedolion fod yn fwlis hefyd
Yn anffodus, gall rhai oedolion fod yn fwlis hefyd (gan gynnwys rhai rhieni neu aelodau eraill y teulu, neu athrawon). Os mae oedolyn yn dy fwlio (efallai eu bod yn gweiddi arnat, yn pryfocio, yn bychanu, yn dychryn neu'n codi ofn arnat ti, neu'n ceisio dy orfodi i wneud pethau nad wyt ti am eu gwneud) dylet siarad ag oedolyn rwyt ti'n ymddiried ynddo a dywed wrtho beth sy'n digwydd.
Mae gwefannau eraill yn cynnwys gwybodaeth a chyngor ar fwlio: www.bullying.co.uk, www.childline.org.uk

