Pam mae bwlis yn bwlio?
Mae llawer o resymau gwahanol dros bobl yn bwlio.
Mae rhai bwlis yn credu bod ymddygiad felly yn gwneud iddynt edrych yn fawr ac yn galed - maent yn hoffi codi ofn ar bobl ac yn mwynhau'r teimlad o reoli. Mae rhai bwlis yn dioddef o ddiffyg hunan-barch ac yn credu mai bwlio yw'r unig beth maent yn ei wneud yn dda. Mae rhai yn bwlio oherwydd eu bod eisiau sylw. Mae eraill yn genfigennus o'r bobl maent yn eu targedu, neu'n teimlo'n anniogel. Efallai bod rhai yn cael eu bwlio eu hunain, yn y cartref efallai. Mae rhai bwlis yn bwlio oherwydd eu bod yn anhapus â nhw eu hunain, ac yn credu y byddant yn teimlo'n well ar ôl bwlio pobl eraill. Efallai bod eraill yn bwlio oherwydd bod pobl eraill o'u cwmpas yn gwneud yr un peth, ac maent yn poeni y bydd y lleill yn pigo arnyn nhw os nad ydynt yn ymuno â'r bwlio. Beth bynnag sy'n gwneud i fwli fwlio, nid yw bwlio byth yn iawn.
Efallai dy fod yn tybio pam mae bwlis yn targedu pobl benodol. Mae'r unigolion sy'n cael eu bwlio yn aml yn cael eu portreadu fel stereoteip clasurol, ond nid yw hyn yn gywir. Gall unrhyw un, heb fai arnyn nhw, gael ei fwlio. Mae bwlis yn defnyddio pob math o esgusodion i geisio cyfiawnhau yr hyn maen nhw'n ei wneud. Maent yn pigo ar bobl oherwydd eu bod yn "wahanol" - efallai eu bod yn gwisgo sbectol, yn dew neu'n denau, neu'n dal neu'n fyr, efallai bod acen wahanol ganddynt, neu nam ar eu lleferydd megis atal dweud neu floesgni, neu fod ganddynt grefydd wahanol, lliw croen gwahanol, anabledd, neu efallai eu bod yn gweithio'n galed yn yr ysgol neu lawer o resymau eraill. Mae rhai bwlis yn pigo ar bobl na fyddant yn ateb yn ôl neu'n sy'n methu sefyll dros eu hunain.
Gall unrhyw beth sy'n gwneud i unigolyn ymddangos yn "wahanol" achosi i fwli bigo ar yr unigolyn hwnnw. Ond cofia, does dim byd o'i le mewn bod yn "wahanol". Wedi'r cwbl, mae'n well bod yn "wahanol" nag yn fwli!
Yn anffodus, mae llawer o bobl sy'n cael eu bwlio yn credu mai eu bai nhw yw hi a bod 'na rhywbeth o'i le arnyn nhw sy'n arwain at y bwlio. Nid yw hyn yn wir. Nid yw unrhyw fwlio yn iawn. Y bwlis sydd angen newid nid y rhai sy'n cael eu bwlio.
Does dim rhaid i ti ddioddef bwlio! Cer at sut i'w stopio i weld beth allet ei wneud.

