Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Iselder

Iselder

Beth yw iselder?

Defnyddir y gair "iselder" i ddisgrifio teimlo'n isel dy ysbryd, a gall hyn effeithio ar bob un ohonom o dro i dro. Mae teimlo'n drist neu deimlo'n ddigalon yn ymateb normal i brofiadau sy'n cynhyrfu, sy'n arwain at straen neu sy'n anodd; fel arfer bydd y teimladau hynny'n cilio.

Os oes iselder arnat, nid teimlo'n drist neu'n ddigalon wyt ti. Rwyt yn dioddef o salwch sy'n golygu fod teimlad dwys o dristwch, fod yn ddiymadferth, ac yn anobeithiol yn mynd law yn llaw ag effeithiau corfforol megis methu cysgu, diffyg egni, neu boenau a doluriau corfforol.

Weithiau nid yw pobl yn sylweddoli pa mor isel maen nhw, yn enwedig os maent wedi teimlo fel hyn ers tipyn, os maent wedi bod yn ceisio ymdopi â'r iselder trwy gadw eu hunain yn brysur, neu os mae symptomau'r iselder yn rhai mwy corfforol nag emosiynol.

Mae'r adran hon yn cynnwys gwybodaeth ar symptomau iselder, sut i helpu dy hunan, mathau o driniaeth ar gyfer iselder, a sut i helpu rhywun arall.

Seilir hyn ar wybodaeth a ddarparwyd gan The Depression Alliance - www.depressionalliance.org