Helpu rhywun arall
Mae'n bosibl helpu pobl sy'n dioddef o iselder, ac wrth wneud hynny, mae'n bosibl y bydd y berthynas rhyngoch chi wedyn yn agosach, ac yn rhoi mwy o foddhad. Ond cofiwch, y gall gofalu am rywun sy'n dioddef o iselder arwain at deimladau o rwystredigaeth, a gall olygu dy fod ti'n teimlo'n isel dy hunan hefyd. Efallai y byddi di angen cefnogaeth ar adegau weithiau hefyd.
Mae'r Depression Alliance yn cynnig gwybodaeth, cefnogaeth a dealltwriaeth i bobl sy'n pryderu ynghylch, neu'n gofalu am, rywun sy'n dioddef o iselder.
Eight ways you can help someone with depression:
- Cofio nad yw unigolyn yn gallu atal iselder rhag effeithio arno(i)
- Eu hannog i siarad, a gwrando ar yr hyn maen nhw'n ei ddweud.
- Gwneud yn sïwr eu bod yn gwybod dy fod yn poeni amdanynt.
- Cadw mewn cysylltiad â nhw. Trwy anfon cerdyn, ffonio neu ymweld â nhw yn eu cartref. Cofiwch y gall iselder fod yn brofiad unig iawn.
- Helpu nhw i deimlo'n dda amdanynt eu hunain trwy foli eu cyraeddiadau bob dydd.
- Eu hannog i helpu eu hunain trwy ddefnyddio technegau hunangymorth.
- Cael hyd i wybodaeth ar wasanaethau cymorth sydd ar gael iddynt ac i ti dy hunan (grwpiau hunangymorth, cymorth brys tu allan i oriau arferol, llinellau cymorth ac ati). Gwneud yn sïwr eu bod yn cysylltu â'r Depression Alliance.
- Eu hannog i fynd at y meddyg, a sicrhau eu bod yn cymryd unrhyw feddyginiaethau fel y dylent.
Os maen nhw'n sôn am, neu wedi ceisio, lladd eu hunain
Mae meddwl am hunanladdiad yn gyffredin mewn pobl sy'n dioddef o iselder. Paid â bod ofn gofyn a yw'n teimlo fel lladd ei hunan, a cheisio tawelu ei (f)meddwl fod teimlo neu feddwl fod y dyfodol yn anobeithiol o reidrwydd yn golygu fod hynny'n wir.
Os mae'r unigolyn yn bwriadu lladd ei hunan, neu wedi ceisio lladd ei hunan, dylid galw ar bobl eraill (Meddyg, gwasanaethau brys, gwasanaethau cymdeithasol) i'w helpu ac i helpu ti ymdopi â'r sefyllfa. Gellir hefyd cysylltu â'r Samariaid (08457 90 90 90).
Mae angen gwneud yn sïwr fod yr unigolyn yn gwybod fod ei (f)bywyd yn bwysig i ti ac i lawer o bobl eraill, ac y bydd yn teimlo'n well ar ôl cael triniaeth briodol. Er mor anodd yw gofalu am rywun sy'n teimlo fell lladd ei hunan, bydd y ffaith dy fod yn dangos dy fod yn poeni, yn cael effaith bositif.
Seilir yr uchod ar wybodaeth a ddarparwyd gan The Depression Alliance - www.depressionalliance.org

