Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Talking

Helpu dy hunan

Mae nifer o agweddau a thechnegau gwahanol ynghlwm wrth hunangymorth, fydd efallai yn lleddfu ar neu hyd yn oed yn atal iselder ysgafn. Mae'r technegau hyn yn cyflenwi triniaeth broffesiynol, a ni ddylid eu hystyried fel dewis arall yn lle triniaeth.

Rhannu profiadau

Yn aml, gellir lleddfu ar iselder trwy siarad â phobl eraill sydd mewn sefyllfa debyg. Cysylltwch â'r Depression Alliance am wybodaeth ynglyn â'u rhwydwaith o grwpiau hunangymorth, a'r gwasanaeth cyfaill drwy'r post.

Casglu gwybodaeth

Trwy ddarganfod mwy ynghylch iselder, gellir lleihau'r camsyniadau, yr euogrwydd a'r ofn sydd yn aml yn gysylltiedig â'r cyflwr. Gellir hefyd edrych yn y llyfrgell leol neu ar y rhyngrwyd, neu gellir cysylltu â'r Depression Alliance am wybodaeth ar yr ystod eang o daflenni, fideos a thapiau ar iselder sydd ganddynt.

relaxing

Ymlacio

Yn aml, mae cyswllt rhwng iselder a thensiwn, straen a phryder. Mae nifer o ffyrdd y gall rhywun ymlacio - ioga, darllen, gwrando ar dâp ymlacio, mynd i ffwrdd am wyliau byr - ceisia ddarganfod beth sy'n gweithio i ti, a gwna'n siwr dy fod yn caniatáu digon o amser i ymlacio.

Ymarfer

Mae llawer o bobl sy'n dioddef o iselder yn darganfod fod diffyg egni arnynt, a'u bod yn teimlo'n flinedig trwy'r amser. Wrth wneud ychydig o ymarfer ysgafn, bydd rhywun yn teimlo'n fwy positif.

fruit & veg

Newid diet

Gall iselder effeithio ar chwant bwyd, felly mae angen sicrhau dy fod yn bwyta bwyd addas a hynny'n gyson. Gall pobl hefyd teimlo'n flinedig ac yn isel os nad ydynt yn cael maetholion pwysig, felly mae angen cynnwys ffrwythau a llysiau ffres yn y diet.

Dilyn diddordebau

Mae'n bwysig parhau ag unrhyw hobïau neu ddiddordebau sydd gennyt. Gall hyn fod yn anodd os wyt ti'n teimlo'n isel, yn enwedig os wyt yn cael trafferth i ganolbwyntio, ond bydd yn helpu ti i deimlo'n well.

Seilir yr uchod ar wybodaeth a ddarparwyd gan The Depression Alliance - www.depressionalliance.org