Symptomau
Dyma restr o'r symptomau mwyaf cyffredin mewn perthynas ag iselder. Fel arfer, os wyt ti wedi cael pedwar neu fwy o'r symptomau hyn am y rhan fwyaf o bob dydd bron bob dydd ers dros bythefnos, dylet chwilio am gymorth.
- blinder a diffyg egni
- teimlo'n drist o hyd
- diffyg hunanhyder a hunan-barch
- yn cael trafferth canolbwyntio
- yn methu mwynhau pethau sydd fel arfer yn hwyl neu'n ddiddorol
- teimlo'n euog neu'n ddiwerth
- teimlo'n ddiymadferth ac yn anobeithiol
- problemau cysgu - yn cael trafferth mynd i gysgu neu'n deffro'n gynt nag arfer
- osgoi pobl eraill, weithiau ffrindiau agos hyd yn oed
- yn cael trafferth gweithio yn y gwaith/coleg/ysgol
- colli chwant am fwyd
- colli diddordeb mewn rhyw a/neu broblemau rhywiol
- poenau a doluriau corfforol
- meddwl am hunanladdiad a marwolaeth
- hunan-niwed
Atgynhyrchwyd yr wybodaeth yma gyda chaniatâd caredig The Depression Alliance - www.depressionalliance.org

