Triniaeth
Mae nifer o ddulliau amrywiol i drin iselder; gall y rhain cynnwys meddyginiaeth gwrth-iselder, therapi seicolegol, neu opsiynau hunangymorth. Yn aml, mae pobl yn darganfod fod cyfuniad o'r pethau hyn yn gweithio orau.
Wrth drafod y driniaeth fwyaf addas i ti gyda'r meddyg, mae'n ddefnyddiol deall sylfeini'r opsiynau gwahanol. Am fwy o wybodaeth, cysylltwch â'r Depression Alliance - maen nhw'n cynhyrchu cyfres o daflenni ar y gwahanol fathau o driniaeth sydd ar gael, gan gynnwys opsiynau hunangymorth.
Meddyginiaeth gwrth-iselder
Mae ystod eang o fathau gwahanol o feddyginiaethau gwrth-iselder ar gael. Mae gwrthiselyddion yn gweithio trwy normaleiddio lefelau gweithgaredd cemegau yn yr ymennydd sy'n effeithio ar ein hwyliau. Nid yw gwrthiselyddion yn gwella iselder, ond gallent leddfu ar y symptomau sy'n golygu fod unigolyn yn gallu ymddwyn yn normal, a symud tuag at ddelio â'r iselder ei hunan. Bydd angen cymryd y cyffuriau am efallai pythefnos i bedair wythnos iddynt fod yn effeithiol.
Talking treatments
Er bod meddyginiaethau yn gallu codi hwyliau rhywun, nid yw'n mynd i'r afael â'r problemau sylfaenol sy'n effeithio arnat. Mae mathau gwahanol o therapi seicolegol yn gallu ystyried yr hyn sydd efallai wedi cyfrannu at yr iselder yn y lle cyntaf, a'r hyn sy'n golygu dy fod yn dal i deimlo'n isel.
Mae llawer o fathau gwahanol o therapi seicolegol yn bodoli. Does 'na'r un yn 'well' na'r llall, felly, mae'n fater o ddod o hyd i'r therapi, a'r therapidd, sy'n siwtio ti orau. Efallai bydd y Meddyg Teulu yn gallu rhoi cyngor ar hyn, yn ogystal â'r mathau gwahanol o therapi sydd ar gael yn yr ardal leol. Mae pob math o therapi ar gael ar y GIG, ond mae'n bur debyg y bydd rhestr aros ar eu cyfer. Os wyt ti'n penderfynu dewis therapi preifat, mae angen sicrhau dy fod yn dewis therapidd cofrestredig neu achrededig.
Mae llawer o fathau gwahanol o therapi; ymysg y rhai mwyaf cyffredin mae:
Therapi gwybyddol
Mae ffordd o feddwl yr unigolyn yn penderfynu ar sut mae'n teimlo; os wyt ti'n teimlo'n isel, rwyt ti'n teimlo'n negyddol iawn. Mae Therapi Gwybyddol yn gweithio trwy herio'r patrymau meddwl negyddol hyn, a thrwy awgrymu newidiadau i ymddygiad distrywiol.
Therapi rhyngbersonol
Mae'r therapi hwn yn canolbwyntio ar y berthynas gyda phobl eraill. Mae'n dysgu sut i gyfathrebu mewn dull mwy effeithiol a sut i wella dy farn ohonot ti dy hunan.
Therapi seicodynamig
Mae'r math hwn o therapi yn helpu pobl i ddeall gwrthdrawiadau'r gorffennol, sut i ryddhau ymosodedd a lleihau teimladau o euogrwydd neu annigonolrwydd.
Cynghori
Mae'r term hwn yn cyfeirio at ystod eang o safbwynt technegau a dulliau, ac mae rhai o'r rhain yn defnyddio'r mathau o therapi a nodir uchod. Fel arfer, mae cynghori yn rhoi cyfle i bobl drafod y pethau yn eu bywyd dyddiol sydd efallai yn cyfrannu at eu teimladau o iselder, yn hytrach na cheisio trin problemau sydd efallai'n mynd yn ddyfnach.
Mathau eraill o driniaeth:
Triniaeth gyflenwol neu 'amgen'
Gall y rhain cefnogi, neu mewn rhai achosion, gymryd lle mathau confensiynol o driniaeth yng nghyswllt iselder. Er enghraifft, mae gwaith ymchwil ar aciwbigo, moddion llysieuol (gan gynnwys St John's Wort), ac aromatherapi, yn awgrymu y gall y mathau hyn o driniaeth helpu lleddfu pryder ac iselder ysgafn. Dylid trafod hyn gyda'r Meddyg Teulu bob tro cyn dewis triniaeth gyflenwol.
Therapi electrogonsfylsiwn (ECT)
Defnyddir y therapi hwn ambell waith gyda phobl sy'n dioddef o iselder difrifol, fel arfer os mae mathau gwahanol o driniaeth yn anaddas neu os nad ydynt yn fuddiol. Dylid gofyn i'r Meddyg Teulu am fwy o wybodaeth ynghylch y math hwn o driniaeth.
Seilir yr uchod ar wybodaeth a ddarparwyd gan The Depression Alliance - www.depressionalliance.org

