Hunanniweidio
Gweithred fwriadol hunanachosedig yw hunan-niwed, sy'n achosi anaf i'r corff.
Ymysg y dulliau mwyaf cyffredin i rywun achosi hunan-niwed yw torri neu losgi'r croen, neu gymryd gorddos o gyffuriau. Ymysg dulliau eraill mae brathu, cripian, cleisio, crafu neu sgwrio croen, gwenwyno, tynnu gwallt, dyrnu, cicio neu fwrw yn erbyn pethau, neu wthio gwrthrychau mewn i'r corff.
Does dim "math" penodol o unigolyn sy'n dueddol o niweidio ei hunan, er mae'r arfer i'w weld fwyaf ymysg pobl ifanc a rhai yn eu harddegau, ac mae merched a menywod ifanc yn fwy tebygol i niweidio eu hunain na bechgyn a dynion ifanc.
Ymysg y termau eraill sy'n cael eu defnyddio yn y cyswllt hwn mae "hunananafiad", "hunananffurfiad", "hunanglwyf", "trais hunanachosedig", ac "ymddygiad hunanddinistriol".

