Helpu rhywun arall
I fwyafrif y boblogaeth, mae'r awydd i frifo dy hunan yn gysyniad hollol annealladwy. Oherwydd hyn, rhoddir label ar unigolion sy'n niweidio eu hunain sef "unigolion sy'n ceisio sylw", ac weithiau gall yr arfer o hunan-niwed ysgogi ymatebion megis dicter a ffieidd-dod ymysg pobl o'u cwmpas.
Yn aml mae pobl sy'n niweidio eu hunain yn teimlo cywilydd, ac yn ofni ymatebion a chael eu condemnio felly. Mae hyn yn golygu fod rhai pobl sy'n hunanniweidio yn cuddio eu hanafiadau, ac yn cadw eu harfer yn breifat (weithiau am flynyddoedd) ac yn oedi edrych am gymorth o ganlyniad.
Mae'n bwysig cofio fod gan bawb dulliau o ymdopi ar adegau o straen neu pan mae bywyd yn anodd. Mae rhai pobl yn ysmygu, eraill yn yfed gormod o alcohol, eraill yn bwyta i gysuro eu hunain ac yn y blaen. Mae'r holl bethau hyn yn gwneud niwed i'n cyrff - ond ar y cyfan, mae'n ymddangos eu bod yn fwy derbyniol o safbwynt cymdeithasol na hunan-niwed.
Mae pobl sy'n hunanniweidio yn mynd trwy gyfnod o gyfyngder eithafol. Mae arnynt angen amynedd, dealltwriaeth, tosturi, gofal a chymorth. Ymysg y ffyrdd i helpu mae'r rhain:
- Cynnig gwrando arnynt - mae angen: gwrando mewn difrif ar yr hyn maent yn ei ddweud, eu cymryd o ddifrif, a pharchu eu teimladau. Ceisia beidio â bod yn feirniadol, a phaid â digio neu eu beio am yr hunan-niwed.
- Eu hannog i ddweud wrth rywun - galli di gynnig mynd gyda nhw, neu ddweud wrth rywun ar eu rhan nhw.
- Eu hannog i geisio cymorth proffesiynol - galli di gynnig mynd gyda nhw i'r apwyntiad.
Gall y broses o gynorthwyo rhywun fod yn anodd ac yn arwain at ofid. Mae angen cofio o hyd nad ti sy'n gyfrifol am yr hunan-niwed, a derbyn y ffaith na allet fod gyda'r unigolyn bob amser mae'n teimlo'r awydd i niweidio ei hunan.

