Helpu dy hunan
Os wyt ti'n defnyddio hunan-niwed fel dull i ymdopi, y peth pwysig i'w sylweddoli yw nad ti yw'r unig un. Mae llawer o bobl yn niweidio eu hunain.
Mae hefyd yn bwysig gwybod fod llawer o bobl wedi goresgyn eu problemau, wedi cael hyd i ddulliau eraill o ymdopi â'u teimladau, ac wedi rhoi'r gorau i niweidio eu hunain. Roedd angen cymorth ar rai i wneud hyn, ac i eraill, mae'r broses wedi bod yn un hir gyda throeon yr yrfa. Er hynny, nid oes rhaid i ti wneud hyn wrth dy hunan - mae cymorth ar gael i bobl sy'n niweidio eu hunain.
Beth am gael sgwrs gyda rhywun sydd â ffydd ynddot (e.e. rhiant, nain neu daid, brawd neu chwaer, ffrind, athro, nyrs ysgol, gweithiwr cymdeithasol, gweithiwr ieuenctid). Neu, os nad wyt ti'n teimlo dy fod yn gallu rhannu'r broblem gyda rhywun sy'n gyfarwydd â thi, mae llawer o fudiadau ar gael sy'n cynnig cymorth a chyngor cyfrinachol. Gweler Manylion Cyswllt am fwy o wybodaeth ar asiantaethau fyddai'n gallu bod o gymorth.
Pan fyddi di'n barod, efallai y byddai o fudd gweld gweithiwr proffesiynol ym maes iechyd meddwl, neu ymgynghorwr fydd yn gallu helpu ti i ddatrys y materion sy'n dy arwain at hunan-niwed. Efallai y byddant yn gallu helpu ti i ystyried y rhesymau am yr hunan-niwed, datblygu dulliau newydd i ymdopi, a dulliau eraill o gyfathrebu a mynegi dy deimladau.
Hefyd mae llawer o bethau gellir eu gwneud i helpu dy hunan. Galli arbrofi gyda rhai o'r technegau sydd ar gael i atal dy hunan rhag hunan-niwed, neu i wneud y niwed lleiaf posibl i ti dy hunan. Mae'r rhestr isod yn rhoi rhai awgrymiadau. Mae pobl wahanol yn darganfod fod pethau gwahanol yn llwyddiannus, yn dibynnu ar y sefyllfa, felly os nad yw un dechneg yn gweithio, rho gynnig ar un arall.
Os wyt ti'n ystyried hunan-niwed, ceisia feddwl am bethau eraill:
- Canolbwyntio ar wrthrychau o'th gwmpas, a sut maent yn edrych, yn swnio, yn arogli, yn blasu ac yn teimlo.
- Anadlu'n araf - i mewn trwy'r trwyn, ac allan trwy'r geg.
- Cyfri i lawr yn araf - 10, 9, 8, 7, 6, 5, 4, 3, 2, 1, 0.
- Ffonio ffrind am sgwrs.
- Gwrando ar gerddoriaeth, tynnu llun neu ddarllen llyfr.
- Gwneud rhyw ymarfer corfforol, megis cerdded, rhedeg, ymarfer, neu chwaraeon.
- Ysgrifennu dy deimladau negyddol ar ddarn o bapur, yna rhwygo'r papur.
- Edrych ar wefannau hunangymorth.
Os wyt ti dal yn awyddus i niweidio dy hunan:
- Dyrnu bag dyrnu neu glustogau er mwyn cael gwared â'th ddicter neu rwystredigaeth.
- Defnyddio pen ffelt coch neu finlliw i farcio dy groen yn hytrach na'i dorri.
- Rhoi dy ddwylo mewn bowlen llawn iâ (am gyfnod byr yn unig) neu rwbio iâ ar y darn o'th gorff yr hoffet ei anafu.
- Rhoi band lastig rownd dy arddwrn, a'i fflicio wrth feddwl am dorri dy hunan.

