Pam mae pobl yn niweidio eu hunain?
Mae llawer o bobl sy'n niweidio eu hunain yn gwneud hyn er mwyn gollwng emosiynau dwys, poenus, nad ydynt yn gallu eu datgan mewn unrhyw ffordd arall (er enghraifft, dicter, rhwystredigaeth, cyfyngder, iselder, cywilydd, ymosodedd, neu deimladau o fod yn ddiwerth, diffyg hunan-barch, neu hunan gasineb).
Yn aml mae hunan-niwed yn cychwyn fel dull o ymdopi â phrofiad neu ddigwyddiad poenus megis ffraeon teuluol, problemau gyda pherthynas, esgeulustod, bwlio, profedigaeth, trais neu ymosodiad, camdriniaeth rywiol neu gorfforol, diweithdra, trais yn y cartref, beichiogrwydd digroeso, erthyliad naturiol, salwch neu anabledd difrifol, digwyddiad arall sy'n achosi cyfyngder mewn bywyd unigolyn, neu fel dull o ddelio â phroblemau a phwysau cyffredin.
Mae rhai pobl yn niweidio eu hunain unwaith neu ddwy er mwyn ymdopi â phrofiad penodol neu ddigwyddiad trawmatig yn eu bywydau. Mae pobl eraill yn niweidio eu hunain dro ar ôl tro pryd bynnag maent yn dod ar draws anawsterau yn eu bywydau.
Pan fydd unigolyn yn niweidio ei hunan, mae'r corff yn rhyddhau endorffinau - ymateb naturiol yw hyn i'n helpu ymdopi â phoen. Mae rhai pobl yn credu fod yr endorffinau hyn yn ysgogi teimladau o ryddhad a lles wrth i rywun niweidio ei hunan. Mae pobl sy'n niweidio eu hunain yn mynd ar ôl yr emosiynau hyn, a dyna'r rheswm maent yn aml yn teimlo'r angen i niweidio eu hunain dro ar ôl tro (maent yn ddibynnol arno).
Yn aml mae'r hunan-niwed yn mynd yn waeth gydag amser, ac mae'r unigolyn yn teimlo'r angen i niweidio ei hunan gydag anafiadau mwy sylweddol er mwyn cael yr un teimlad o ryddhad. Gall hyn arwain at niwed difrifol neu hyd yn oed weithiau unigolyn yn cyflawni hunanladdiad anfwriadol.
Mae rhai pobl sy'n niweidio eu hunain yn mynd ymlaen i gyflawni hunanladdiad, weithiau'n ddamweiniol (trwy dorri ei hunan yn y lle anghywir neu gyda gorddos difrifol), neu oherwydd nad yw hunan-niwed yn gweithio fel dull o ymdopi â'r emosiynau dwys maent yn eu teimlo ar y pryd. Fodd bynnag, ni ddylid ystyried hunan-niwed fel ymdrech aflwyddiannus i gyflawni hunanladdiad. Dull o ymdopi â bywyd yw i rai pobl, nid dull i roi terfyn ar fywyd.

