Iechyd a Lles yng Nghefn Gwlad

Straen

Straen

Mae bywydau pawb y dyddiau hyn yn brysur iawn, ac o ganlyniad, mae pawb yn teimlo dan bwysau o dro i dro.

Weithiau, gall straen fod yn beth da - dyna sy'n rhoi egni ac ynni inni, ac yn golygu ein bod yn gallu ymdopi mewn argyfwng.

Mae pobl wahanol yn gallu ymdopi â meintiau gwahanol o straen. Efallai y bydd un unigolyn yn ffynnu mewn sefyllfa benodol, tra bo eraill yn ei chael yn brofiad ofnadwy o safbwynt straen (e.e. gweithio i derfynau amser tynn).

Mae pobl yn aml yn dioddef o straen mewn perthynas â newidiadau mawr yn eu bywydau, megis symud ty, priodi, ysgaru, sefyll arholiadau, neu newid ysgol/swydd. Mae pobl eraill yn teimlo straen mewn perthynas â digwyddiadau cyffredinol bob dydd.

Ond, beth yw straen?

Beth yw symptomau straen, a sut wyt ti'n gwybod dy fod dan bwysau?

Sut gallwn ni symud o gyfyngder i fod yn ddi-straen?