Cyfingder i fod yn ddi-straen
Gall dioddef o straen am gyfnod hir niweidio'r corff, ac achosi cyflyrau meddygol megis pwysedd gwaed uchel, wlserau yn y stumog, syndrom coluddyn llidus, iselder, chwalfa feddyliol, a gallet fod yn fwy tebygol o ddioddef o glefyd y galon a strociau.
Er hynny, mae nifer o ffyrdd i fynd i'r afael â straen yn ein bywydau, ac i ddysgu ymdopi'n well.
Bwyta'n dda
Bydd dy iechyd yn dioddef os nad wyt ti'n bwyta diet cytbwys.
Felly gwna'n siwr dy fod yn bwyta cydbwysedd o fwydydd, gan gynnwys ffrwythau a llysiau ffres i sicrhau fod dy gorff yn cael yr holl fitaminau angenrheidiol, a charbohydradau llawn startsh megis tatws, pasta, reis a bara i sicrhau fod dy gorff yn cael yr holl egni angenrheidiol. Gwna'n siwr dy fod yn bwyta brecwast da hefyd, i'th helpu perfformio i'r safonau uchaf.
Ceisia fwyta llai o fwydydd sothach neu fwydydd llawn siwgr. Hefyd, dylet dorri 'nôl ar faint o gaffein (sy'n symbylydd) rwyt ti'n ei gymryd - newid i yfed dwr yn lle - a dylet anelu at yfed 8 gwydraid bob diwrnod.
Gweler yr adran cydbwysedd iach am fwy o wybodaeth.
Cadw'n ffit
Mae gweithgareddau corfforol yn helpu ti i ymlacio, ac yn achosi i'r ymennydd gynhyrchu endorffinau (hormonau naturiol sy'n gwneud i rywun "deimlo'n dda" sy'n dy adael yn teimlo wedi ymlacio ac yn golygu dy fod yn teimlo'n iach).
Felly, pam nad ei di i'r gampfa, neu i'r pwll nofio, neu beth am fynd am dro egniol neu i loncian, cer allan i'r awyr iach i chwarae pêl droed gyda ffrindiau? Neu, beth am fynd i ddosbarthiadau ymlacio megis ioga neu Tai Chi?
Gweler yr adran cydbwysedd iach am fwy o wybodaeth.
Sigarennau, cwrw a sylweddau anghyfreithlon
Bydd dy iechyd yn dioddef trwy ysmygu, cymryd cyffuriau, neu yfed gormod o alcohol. Trwy ychwanegu effeithiau straen at hyn, gallet deimlo'n wael iawn.
Gweler yr adran beth gymerwch chi am fwy o wybodaeth.
Rheoli amser
Dim ond bod dynol yw pob unigolyn, a gallet ond gwneud yr hyn a fedret. Paid â cheisio gwneud mwy na gwaith a gweithgareddau un diwrnod mewn diwrnod.
Cofia flaenoriaethu - gwna restr o bopeth sydd angen ei wneud yn ôl ei flaenoriaeth, a rho linell trwyddynt ar ôl eu gorffen. Yn fuan iawn, bydd y rhestr oedd yn ymddangos yn hollol afrealistig, wedi troi'n dasgau realistig y gellir eu cyflawni o fewn amser rhesymol.
Peth da yw siarad
Does dim byd yn haws. Cer at ffrind neu rywun arall sy'n hawdd siarad ag ef/hi i drafod pethau. Er na fydd hyn yn datrys y broblem yn gyfan gwbl, mae'r broses o rannu pryderon/problem yn gwneud i ti deimlo'n well, ac yn helpu rhoi persbectif ar bethau.
Magu nerth newydd
Cymer amser i ymlacio, i wella, i adfywio ac i fagu nerth newydd.
Cer am dro yn y wlad, neu beth am beintio llun neu ddarllen llyfr, cer am ginio gyda ffrind, ymlacia mewn bath, neu cer am sesiwn tylino; cei wrando ar gerddoriaeth i ymlacio neu ddefnyddio aromatherapi, Tai Chi neu ymarferion ymlacio - unrhyw beth fydd yn rhoi cyfle i ti anghofio popeth am ychydig a rhoi amser i'th gorff a'th feddwl gwella.
Hefyd, gwna'n siwr dy fod yn cael digon o gwsg - mae'r rhan fwyaf o bobl angen tua 7 neu 8 awr o gwsg o ansawdd da bob nos.

